Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Roedd eleni yn flwyddyn arbennig iawn gan fod y Cynllun Gwirfoddoli yn dathlu pen-blwydd yn 10 oed. Mae dros 300 o wirfoddolwyr o bob oed, gallu a chefndir bellach wedi rhoi o’u hamser i gefnogi’r Llyfrgell wrth gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau a chymdeithasu. Yn ystod y flwyddyn rhoddodd 82 o unigolion dros 5,600 o oriau gwirfoddoli wrth gyflawni 24 o dasgau.
Mae llawer o’r gwirfoddolwyr hynny bellach yn gweithio mewn ystafell newydd ar gyfer gwaith gwirfoddoli gafodd ei hagor fel rhan o ddatblygu Canolfan Archif Ddarlledu Cymru. Nod yr ystafell hon yw gwneud gwaith gwirfoddoli yn fwy gweledol a rhoi mwy o gyfle i wirfoddolwyr weithio mewn grwpiau a chymdeithasu.
Mae partneriaeth y Cynllun Gwirfoddoli gyda rhaglen Casgliad y Werin Cymru yn parhau, ac mae nifer o fyfyrwyr ôl-radd sydd wedi dod yn wirfoddolwyr yn ddiweddar yn derbyn hyfforddiant digido wedi’i achredu.
Lansiwyd prosiect newydd eleni i gyfrannu at gynnal gerddi blodau’r Llyfrgell, ac mae’r Llyfrgell hefyd yn gweithio gyda Chofiadur yr Orsedd ar dasg newydd arall i greu rhestr gynhwysfawr o aelodau’r Orsedd o 1860 ymlaen.
Ar lwyfan Torf y Llyfrgell mae gwirfoddolwyr rhithiol wedi bod yn tagio a disgrifio lluniau o gasgliad y Llyfrgell o Lyfrau Ffoto o’r 19eg ganrif. Mae 245 o albymau a degau o luniau ym mhob un, ac mae mwy na 75% o’r casgliad bellach wedi ei gwblhau.
Daeth llawer o bobl ifanc i'r Llyfrgell dros yr haf eleni er mwyn dysgu a chael hwyl trwy fod yn rhan o weithdai ar themâu amrywiol. Roedd y sesiynau hyn rhan o gyfraniad y Llyfrgell at gefnogi cynllun Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru i helpu plant a phobl ifanc i adfer o’r pandemig trwy gyfoethogi gwyliau ysgol. Cyflwynwyd 12 gweithdy ar dair thema oedd yn amrywio o greu modelau Lego o adeilad y Llyfrgell, i ddysgu am wyddonwyr o Gymru, a dysgu am hanes, adeiladwaith a phensaernïaeth adeilad y Llyfrgell.
Cafwyd hwyl wrth i bobl ifanc fod yn rhan o arbrofion wrth ddysgu am y gwyddonwyr William Grove (arbrawf ynni hydrogen), Mary Dillwyn Llewelyn (arbrawf ffotograffiaeth) a Megan Watts Hughes (arbrawf idioffonau). Cawsant hefyd gyfle i ymweld â lleoliadau anghyfarwydd ac anghysbell, yn cynnwys y twnnel sy’n rhedeg o dan seiliau’r Llyfrgell.
Eleni dechreuodd y Gwasanaeth Addysg ar y gwaith o greu gwefan er mwyn cyflwyno gwybodaeth i blant a phobl ifanc am bobl enwog o hanes Cymru. Bwriad y prosiect yw cyflwyno gwybodaeth am 100 o enwogion Cymru, yn bennaf trwy addasu cynnwys Y Bywgraffiadur Cymreig ar gyfer defnyddwyr iau. Bydd 10% o’r erthyglau yn cynnwys unigolion o gefndir ethnig lleiafrifol, a hanner yr erthyglau yn cynnwys gwybodaeth am fenywod. Bydd gwefan newydd yn cael ei chreu yn arbennig i ddangos yr erthyglau newydd, ynghyd â 10 fideo a fydd yn cael eu cynhyrchu gan ysgolion ar draws Cymru o enwogion o’u hardaloedd hwy.