Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cyflawni'r gwaith
Agorwyd Canolfan Archif Ddarlledu Cymru yn y Llyfrgell ym Mawrth 2023 gan lansio’r archif ddarlledu genedlaethol gyntaf yng ngwledydd Prydain. Trwy ddod ag archifau BBC Cymru, ITV Cymru ac S4C at ei gilydd am y tro cyntaf, bydd cannoedd o filoedd o glipiau fideo o hanes radio a theledu nawr ar gael i bobl Cymru.
Mae Canolfan yr Archif Ddarlledu nid yn unig yn rhoi mynediad i ganrif o hanes darlledu Cymru, ond i ganrif o hanes Cymru. Mae ynddi straeon o bob cornel a chymuned yng Nghymru a thu hwnt.
Mae eiliadau nodedig ein hanes wedi’u cofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol drwy eitemau dogfen a newyddion cyffredinol, sy’n trafod digwyddiadau fel boddi Tryweryn, trychineb Aber-fan, streiciau’r Glowyr a’r Senedd yn agor. Hefyd yn eu plith mae clipiau sy’n dangos pob agwedd ar fywyd, o ddarllediadau helaeth o chwaraeon ers y 1940au, i adloniant a drama yn cynnwys opera sebon hynaf y BBC – Pobol y Cwm – a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1974.
Mae’r arddangosfa barhaol yn defnyddio technoleg ryngweithiol o’r radd flaenaf i arddangos uchafbwyntiau’r Archif Ddarlledu. Mae’r Ganolfan yn cynnwys lolfa sain a fideo sy’n gweithredu fel silffoedd llyfrau clyweledol i’w pori’n hamddenol ac mae’r gwasanaeth allweddol yn cael ei ddarparu drwy derfynellau a fydd yn galluogi mynediad digynsail i’r cyhoedd ac academyddion allu ymchwilio i gasgliad helaeth o ddeunydd wedi’i ddigido o dreftadaeth glyweledol Cymru. Bydd hefyd yn lleoliad i weithgareddau pwrpasol ar gyfer gwirfoddolwyr, ysgolion a grwpiau.
Fel un o’r datblygiadau pwysicaf i’r Llyfrgell ers dechrau’r ganrif hon, mae agor y Ganolfan Archif yn Aberystwyth yn garreg filltir bwysig yn y prosiect i sefydlu Archif Ddarlledu Cymru gyda chymorth nawdd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gyda’r sylfaen nawr wedi’i osod, mae’n ddechrau’r cam nesaf o gyflwyno ein treftadaeth darlledu i bobl Cymru, trwy raglen fywiog o ddigwyddiadau a gweithgareddau a thrwy ehangu mynediad iddi ar safleoedd eraill ar draws Cymru. Yn ystod 2023-24 byddwn yn sefydlu presenoldeb cryf i'r Archif Ddarlledu yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd a byddwn yn agor Corneli Clip lle bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu gwylio a gwrando ar y miloedd o ddarllediadau. Bydd y Gornel Clip gyntaf yn agor yng Nghaerfyrddin yn yr haf, ac eraill ledled Cymru yng Nghaernarfon, Abertawe, Conwy, Merthyr, Wrecsam, Hwlffordd, Llangefni, Llanrwst, Glyn Ebwy, Y Drenewydd, Caerdydd, a Rhuthun.
Yn ystod gwanwyn 2022 agorwyd Ardal Chwarae ar gyfer plant hyd at 7 oed. Datblygodd yr ardal hon, sy’n llawn cyfleoedd chwarae sy’n ysgogi’r synhwyrau ac yn ennyn chwilfrydedd, i fod yn ardal brysur a phoblogaidd. Mae’n cynnwys llyfrgell ddarllen, gweithgareddau traddodiadol a thechnolegol, a llefydd i oedolion oruchwylio eu plant neu ymuno yn y chwarae.
Bellach daw rhai o’n defnyddwyr ifancaf i’r Llyfrgell yn benodol ar gyfer adeiladu gyda blociau, lliwio a darlunio, siopa, gwisgo i fyny a chwarae rôl, sefydlu gwersyll a darllen o dan y sêr, a mynd ar daith i lan y môr neu i’r goedwig.
Mae’r rhai sydd yn ymweld â’r Ardal Chwarae yn gwneud hynny fel teulu, fel grŵp o deuluoedd neu fel Grŵp Meithrin neu Gylch Ti a Fi. Mae’r cyfan yn rhad ac am ddim, a does dim angen bwcio ymlaen llaw.