Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae’r Llyfrgell yn cynnig rhaglen o weithgareddau, cyfleoedd hyfforddiant a sesiynau datblygu sgiliau ar draws Cymru i ddysgwyr o bob oed, gyda llawer o’r gwaith hwn yn digwydd drwy brosiect Casgliad y Werin Cymru. Mae’r prosiect yma ar y cyd gyda Amgueddfa Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cynnal gwefan sy’n dod â threftadaeth Cymru ynghyd ac yn ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Yn ystod 2022-2023 cyflwynodd staff Casgliad y Werin 121 o sesiynau oedd yn cynnwys hyfforddiant trefnu, sganio a digido ffotograffau a dogfennau, sganio a digido i safon amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, hyfforddiant hanes llafar, a gwybodaeth am hawlfraint a meta data.
Yn ystod 2022-23 mae Casgliad y Werin wedi cynorthwyo Mencap Cymru ar brosiect hanes llafar i gasglu a dogfennu hanes gwasanaeth Mencap yn Ystagbwll, Ceredigion a Chas-gwent yn sir Fynwy. Mae lefel y gefnogaeth yn amrywio o un prosiect i’r nesaf, ond mae fel arfer yn cynnwys cynnig hyfforddiant sy’n galluogi cymunedau a grwpiau i gasglu, curadu a chyflwyno eu hanesion eu hunain mewn fformatau digidol sy’n amrywio o ffotograffau i hanesion llafar.
Ym mis Medi 2022 cyhoeddodd y Llyfrgell bartneriaeth newydd gyda’r elusen Beiciau Gwaed Cymru sy’n darparu gwasaneth negesydd, ymateb cyflym, rhad ac am ddim i’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol. Trwy ddarparu storfa ar gyfer beiciau modur yr elusen mae’r Llyfrgell yn falch o allu cefnogi’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan grŵp Aberystwyth o Feiciau Gwaed Cymru wrth iddynt ddarparu gwasanaeth i Ysbyty Bronglais, ysbytai llai yn yr ardal gyfagos ac unedau Mân Anafiadau a Chanolfannau Gofal Integredig y rhanbarth.
Mae gan grŵp Aberystwyth o Feiciau Gwaed Cymru 20 o feicwyr, 2 reolwr a thîm cymorth ymroddedig o bobl yn codi arian, yn ogystal â gwirfoddolwyr gweinyddol ar hyn o bryd. Dyma’r grŵp Beiciau Gwaed lleiaf yng Nghymru er ei fod yn gwasnaethu’r ardal ddaearyddol fwyaf, gan ymateb i dros 600 o alwadau a theithio tua 25,000 o filltiroedd yn flynyddol.
Ers sefydlu’r bartneriaeth rhwng y Llyfrgell a Beiciau Gwaed Cymru union flwyddyn yn ôl, mae grŵp Aberystwyth o’r elusen wedi ymateb i oddeutu 400 o geisiadau i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol gan gynyddu eu horiau gweithredu o tua 15%. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth newydd sbon yn ddiweddar o ddarparu trosglwyddiad dyddiol o samplau patholeg o Wyddorau’r Gwaed, Ysbyty Bronglais i Labordai Gwyddorau’r Gwaed eraill Hywel Dda.
Yn ystod gaeaf 2022 daeth y Llyfrgell yn rhan o rwydwaith Mannau Croeso Cynnes Cyngor Ceredigion a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) gan agor ystafell arbennig i’r cyhoedd a chynnig lle i bobl weithio, darllen ac ymlacio. Wrth i nifer o bobl a theuluoedd wynebu cyfnod caled roedd y Llyfrgell yn arbennig o falch o allu darparu gofod sy’n cynnig mynediad i’r we yn rhad ac am ddim ac sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd ddim yn dymuno gweithio gartref, neu eisiau cwmni a lleoliad gwahanol i gymdeithasu a chadw’n gynnes.