Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Fframwaith Rheoli Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn nodi'r cyd-destun ar gyfer y polisïau sy'n cynorthwyo’r Llyfrgell i reoli'r casgliadau'n effeithiol ac yn effeithlon er budd pobl Cymru a'r Byd. Mae'r polisi hwn yn dod o dan y fframwaith hwnnw a dylid ei ddehongli yn y cyd-destun hwnnw.
Mae’r Polisi Cadwedigaeth a Gofal Casgliadau yn nodi'r egwyddorion lefel uchel sy'n ymwneud â chadwraeth a gofal casgliadau ac yn cadarnhau ymrwymiad y Llyfrgell i gadwedigaeth ddigidol. Mae'r Polisi Cadwedigaeth Digidol hwn yn nodi sefyllfa’r Llyfrgell yn fwy manwl. Mae cynnwys digidol yn dod yn gyfran fwyfwy sylweddol o'r casgliadau, ond mae perygl y gallai mynediad parhaus i’r cynnwys arwain at broblemau’n ymwneud â thechnoleg fel darfodiant caledwedd a meddalwedd a bit rot. Mae mynediad parhaus at ddeunydd digidol nid yn unig yn dibynnu ar ddatrysiadau technegol, ond hefyd ar sicrhau adnoddau a chynllunio strategol.
Yn ogystal â chyd-fynd â Pholisi Cadwedigaeth Ddigidol i Gymru mae’r polisi hwn hefyd yn cefnogi Strategaeth Gorfforaethol y Llyfrgell sef Llyfrgell i Gymru a'r Byd 2021-2026 sy'n rhoi pwyslais ar ddatblygu a buddsoddi yn y gwaith o gasglu a chadw deunydd digidol mewn gwahanol fformatau. Mae Siarter LlGC yn datgan mai nod y Llyfrgell yw "casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math o ffurf ar wybodaeth gofnodedig." Mae cadwedigaeth yn swyddogaeth graidd, y mae LlGC wedi'i chyflawni ers iddi gael ei sefydlu. Mae disgwyl i’r cynnydd ym maint y deunydd digidol a ddelir gan y Llyfrgell barhau. Mae’r Llyfrgell yn un o chwe Llyfrgell Adnau Cyfreithiol ac mae’n derbyn cynnwys Adnau Cyfreithiol Heb ei Argraffu (h.y., wedi'i gyhoeddi'n ddigidol) o dan Reoliadau Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol (Gwaith Di-brint) 2013.
Mae'r casgliad digidol yn cynnwys:
At ddibenion cadwraeth, ni ystyrir bod casgliad LlGC yn cynnwys deunyddiau digidol nad ydynt yn cael eu dal gan LlGC ond sydd ar gael yn LlGC (e.e., cyfnodolion ar-lein neu ffynonellau cyfeirio fel EEBO, Ingenta, Ancestry.com a NewsUK). Fel arfer, mae angen tanysgrifiad neu gytundeb trwyddedu i gael mynediad at y deunyddiau hyn a bydd mynediad i’r adnodd yn dod i ben yn sgil terfynu’r tanysgrifiad. Nid yw LlGC fel arfer yn gallu cymryd cyfrifoldeb am gadwedigaeth tymor hir a chynnal mynediad at adnoddau o'r fath.
Mae’r Llyfrgell yn ymrwymo i sicrhau bod adnoddau digidol yn parhau i fod yn ddibynadwy, yn ddilys ac yn ddefnyddiadwy gyhyd ag y bo angen. Cyflawnir hyn drwy’r ffyrdd canlynol:
Bydd y Llyfrgell yn cydymffurfio ag arfer gorau a safonau cydnabyddedig ar gyfer cadwedigaeth ddigidol. Mae data sy'n ymwneud â chasgliadau digidol hefyd yn ddarostyngedig i Bolisi Disgrifio Casgliadau LlGC. Mae’r Llyfrgell wedi datblygu seilwaith systemau sy'n cydymffurfio ag OAIS ar gyfer cadwedigaeth sy'n seiliedig ar dderbyn yr asedau sydd wedi eu digido yn ei System Rheoli Asedau Digidol, Fedora. Bydd yn parhau i ddefnyddio'r system hon a datblygu'r llwybr Archivematica/Fedora ar gyfer cadw deunydd digidol.
Bydd y Llyfrgell yn gwneud y canlynol:
Cyfarwyddwr y Casgliadau a'r Gwasanaethau Digidol fydd yn gyfrifol am y polisi. Bydd cynnydd ar weithredu a monitro gweithgaredd yn cael ei adrodd i’r Bwrdd Trawsnewid Digidol. Bydd agweddau gweithredol y strategaeth yn cael eu harwain gan y Pwyllgor Cadwraeth Ddigidol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r Llyfrgell.
Bydd LlGC yn chwilio am ddigon o adnoddau i weithredu'r polisi a chynnal yr adnoddau digidol. Os na fydd LlGC yn parhau i weithredu ei pholisi i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ei hasedau digidol, bydd yn colli uniondeb fel Llyfrgell Genedlaethol ac yn methu â chyflawni telerau ei Siarter. Bydd hefyd yn peryglu ei statws Achrediad Archifau, sy'n rhoi pwyslais ar reoli cynnwys digidol. Bydd yn methu â bodloni disgwyliadau ei defnyddwyr, yn wynebu costau cynyddol wrth adfer asedau a gwasanaethau digidol ac ni fydd yn gallu cyfrannu at fentrau cydweithredol na manteisio arnynt.
Mae’r Llyfrgell yn gweithio gyda sawl unigolyn a sefydliad i gefnogi cadwedigaeth ddigidol gynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys partneriaeth â Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol eraill. Mae'r LlGC yn aelod o'r Glymblaid Cadwraeth Ddigidol ac yn ymgysylltu â chyrff gan gynnwys y Ganolfan Curadu Ddigidol, y Ganolfan Cynghori ar Gadwraeth, a'r Open Planets Foundation. Mae'r cyrff hyn yn cymryd rhan weithredol wrth gefnogi cadwraeth ddigidol a bydd y Llyfrgell yn gweithio gyda'r cyrff hyn i gefnogi nodau cadwraeth.
Mae Polisi Diogeledd Gwybodaeth y Llyfrgell yn nodi'r bwriad a'r cyfarwyddyd cyffredinol sy’n ymwneud â diogelwch gwybodaeth. Mae'n disgrifio'r mesurau a gaiff eu cymryd ar gyfer diogelu'r wybodaeth ddigidol yn gorfforol ac yn amgylcheddol. Mae'r Cynlluniau Parhad Busnes ac Argyfwng TGCh yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer gwella systemau a gwasanaethau yng nghyd-destun unrhyw ddigwyddiad aflonyddgar.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol gan y Gyfarwyddiaeth Casgliadau a Gwasanaethau Digidol.
DIWEDD Y DDOGFEN