
Cysylltu Cymru a'r Byd
Cyflwyniad
Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr.
Anrhydedd yw cyflwyno ein Cynllun Strategol newydd ar gyfer 2025–30. Bydd y Cynllun yn llywio sut rydym yn datblygu’r Casgliadau Cenedlaethol o gof y genedl ac yn ymgysylltu ag ystod ehangach o gynulleidfaoedd ym mhob rhan o’r wlad.
Mae lansiad y Cynllun hwn yn cyd-fynd gyda chyhoeddiad Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant gan Lywodraeth Cymru sy’n gosod blaenoriaethau a dyheadau hirdymor ar gyfer y sector ddiwylliant yng Nghymru. Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ledled Cymru i ddatblygu’r blaenoriaethau hyn, gan helpu i osod ein huchelgais gydweithredol ar gyfer y sector, a hynny ar lefel genedlaethol.
Mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo’n llawn i chwarae ei rhan wrth wireddu’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant ac mae’r tair blaenoriaeth sydd wedi eu hamlinellu yno wedi bod yn ganolog i ffurfio Cynllun Strategol y Llyfrgell.
Mae Diwylliant yn Dod â Phobl Ynghyd
Rydym yn gweld y genhadaeth o ddatblygu, diogelu a hwyluso mynediad cynhwysol i'r casgliadau fel conglfaen sylfaenol i’n Cynllun Strategol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn gwella mynediad digidol i'n casgliadau, tra hefyd yn parhau i groesawu ymwelwyr a defnyddwyr ein gwasanaethau i adeilad y Llyfrgell. Rydym hefyd wedi bod yn weithgar yn estyn allan ac ymweld â chymunedau ac ysgolion, a byddwn yn parhau ac yn cynyddu’r gwaith hwn.
Mae democratiaeth ddiwylliannol yn gofyn i ni feddwl am sut rydym yn rhoi mynediad teg at adnoddau. Mae hefyd yn gofyn i ni ystyried sut y gallwn rymuso cymunedau i gyfrannu at ein casgliadau a llunio'n gwasanaethau. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn gallu elwa o fynegiant diwylliannol sy'n cryfhau cynrychiolaeth ac yn hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth. Mae gennym uchelgais glir i gyrraedd cynulleidfaoedd eang ac amrywiol, ynghŷd â theuluoedd, plant a phobl ifanc. Rydym yn ymrwymo i wneud hyn mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo creadigrwydd, lles ac arloesedd, gan gyfoethogi tirwedd ddiwylliannol Cymru ymhellach.
Dathlu Cymru fel Cenedl Diwylliant
Thema sy'n cwmpasu ein holl waith yw rhoi anghenion a buddiannau pobl Cymru wrth wraidd popeth rydym ni’n ei wneud. Rydym yn gwneud hyn wrth hyrwyddo a dathlu'r iaith Gymraeg, gan gydnabod pwysigrwydd diwylliannol pob iaith sy’n cael eu defnyddio gan gymunedau ledled Cymru. Byddwn yn defnyddio casgliadau ac adnoddau'r Llyfrgell i hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg ar y llwyfan lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Byddwn yn dathlu a gwarchod treftadaeth anniriaethol Cymru yn ein gwaith ac yn ein casgliadau, gan gydnabod bod y traddodiadau a'r defodau sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn rhan hanfodol o'n diwylliant.
Rydym yn cydnabod yr angen i wneud llawer mwy i fod yn gynhwysol o grwpiau a phobl sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol yn ein gwaith. Bydd hyn yn darparu ffocws cryf ar gyfer gwasanaethau, datblygu casgliadau ac ymgysylltu yn ystod cyfnod y Cynllun Strategol hwn.
Mae Diwylliant yn Gydnerth ac yn Gynaliadwy
Fel sefydliad, rydym yma i wasanaethu anghenion a buddiannau pobl Cymru. I wneud hyn, byddwn yn ymdrechu i groesawu newid ac i weithio'n ymatebol ac yn gydweithredol. Bydd amddiffyn sgiliau arbenigol ein gweithlu yn parhau i fod yn flaenoriaeth, yn ogystal â chynllunio ar gyfer gweithlu'r Llyfrgell yn y dyfodol.
Mae partneriaeth gymdeithasol yn hanfodol yn ein dulliau gweithio ac wrth greu a chynnal gweithgareddau diwylliannol. Bydd yn gwella rhannu adnoddau ac yn dod â safbwyntiau amrywiol i ni. Mae gwirfoddolwyr yn ganolog i genhadaeth y Llyfrgell, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith aelodau'r gymuned, adeiladu rhwydweithiau cryfach a mwy gwydn sy'n gallu cynnal cyfleoedd diwylliannol dros y tymor hir.
Mae meddwl a gweithredu hirdymor er budd cenedlaethau'r dyfodol yn gyfrifoldeb yr ydym i gyd yn ei rannu. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau datgarboneiddio a sero net gan fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae ein ffocws ar ofalu am y casgliadau a gwella mynediad hefyd yn ymrwymiad hir-dymor.
Mae hon yn weledigaeth i bawb, i staff arbenigol y Llyfrgell, i ddefnyddwyr ac ymwelwyr, ac i bobl yn eu cymunedau ledled Cymru. Ein braint yw eu gwasanaethu, nawr ac am genedlaethau lawer i ddod.