Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ("y Llyfrgell") wedi ymrwymo i wella ein harferion i frwydro yn erbyn caethwasiaeth a masnachu pobl. Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch tuag at fasnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (“Y Llyfrgell”) yn ymrwymedig i atal caethwasiaeth fodern a masnachu pobl ym mhob agwedd o’i gweithrediadau. Mabwysiadwn ymagwedd dim goddefgarwch tuag at caethwasiaeth fodern mewn unrhyw ffurf ac ymroddwn i gryfhau ein harferion er mwyn adnabod, atal a mynd i’r afael â risgiau o’r fath.
Amlinella’r datganiad hwn y camau a gymerwyd yn ystod blwyddyn ariannol 25-26 i gydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac i leihau risgiau yn ein gweithgareddau a’n cadwyni cyflenwi. Adlewyrcha ein hymroddiad i gynnal urddas, diogelwch a hawliau ein staff, gwirfoddolwyr, defnyddwyr ein gwasanaethau, a’n partneriaid, yn enwedig y rhai o grwpiau sydd yn agored i niwed.
Ymhlith y grwpiau sydd dan y risg mwyaf yn y DU mae gweithwyr mudol, ceiswyr lloches, unigolion heb ddogfennaeth, pobl sydd yn profi digartrefedd, ac unigolion sydd ag anableddau dysgu. Parhawn i asesu sut y gallai gaethwasiaeth fodern effeithio ar ein gweithlu, gwirfoddolwyr, defnyddwyr ein gwasanaethau, a’n cadwyni cyflenwi, ac yn sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol gyda polisïau ac arferion cadarn.
Llyfrgell adnau cyfreithiol genedlaethol a Chorff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n un o lyfrgelloedd mwyaf y Deyrnas Unedig, a’r fwyaf yng Nghymru, gyda thros 6.5 miliwn o lyfrau a chylchgronau, yn ogystal â llu o gasgliadau o archifau, llawysgrifau, mapiau, delweddau a deunyddiau clyweledol.
Fel llyfrgell ymchwil ac archif arweiniol, mae’r Llyfrgell yn aelod o Llyfrgelloedd Ymchwil DU a Chonsortiwm Llyfrgelloedd Ymchwil Ewropeaidd. Ei chenhadaeth graidd yw casglu, diogelu a rhoi mynediad i ddeunyddiau sydd yn perthyn i Gymru a bywyd yng Nghymru er budd ymchwil a’r cyhoedd.
Mae’r Llyfrgell yn cyflogi tua 200 o staff, pob un wedi’i leoli yn y DU, yn gweithio’n llawn-amser ac mewn swyddi rhan amser fel ei gilydd.
Pwysleisia ein hymagwedd i fusnes cyfrifol:
Rydyn ni wedi asesu risgiau posib caethwasiaeth fodern o fewn ein gweithrediadau a’n cadwyni cyflenwi. Ymhlith y prif ardaloedd risg mae:
I liniaru’r risgiau hyn, mae’r Llyfrgell wedi gweithredu’r mesurau a ganlyn:
Nid yw'r Llyfrgell yn gweithredu cadwyn cyflenwi uniongyrchol tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Ar gyfer contractau mawr, rheolir caffael drwy system canolog gan ddefnyddio cyflenwyr cymeradwy. Mae hyn yn sicrhau gwiriadau trwyadl cyn dyfarnu, yn hybu tryloywder ac yn galluogi monitro effeithiol parhaus.
Mae Polisi Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion y Llyfrgell (diweddarwyd yn 2022) yn cynnwys cyfeiriad at gaethwasiaeth fodern fel math neu batrwm ymddygiad sy’n gyfystyr â cham-drin person sydd mewn perygl. Mae’r Llyfrgell yn ei gwneud yn ofynnol I bob gweithiwr perthnasol gwblhau hyfforddiant ar ddiogelu oedolion a phlant. Mae canllaw I’r MSA ar gael I’r holl weithwyr ar dudalennau diogelu mewnrwyd y Llyfrgell, 3ochr yn ochr â’r polisïau a’r gweithdrefnau diogelu.
Mae Polisi Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed, yn cydnabod gaethwasiaeth fodern fel math o gamdriniaeth sydd yn effeithio ar unigolion dan risg.
Mae’n ofynnol i’r staff perthnasol i gyd gwblhau hyfforddiant diogelu, ac mae canllaw i’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ar gael ar fewnrwyd y Llyfrgell. Mae hyn yn cynorthwyo staff wrth adnabod ac ymateb i bryderon posib.
Mae Polisi Recriwtio a Dethol yn cynnwys mesurau diogelu i atal cam-fanteisio drwy sicrhau:
Rydyn ni’n monitro effeithiolrwydd ein hymagwedd drwy brosesau caffael a rheolaeth gyflenwyr. Ymhlith y prif fesurau mae:
Byddwn yn parhau i ddatblygu mesurau perfformiad i gryfhau goruchwyliaeth a gwelliant yn yr ardal hon.
Y Prif Weithredwr sydd ag atebolrwydd am gydymffurfiant i’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern. Dirprwyir cyfrifoldeb gweithredol i arweinwyr hŷn mewn ardaloedd risg allweddol, gan gynnwys:
Er nad yw’n ofynnol i’r Llyfrgell gyhoeddi datganiad caethwasiaeth fodern dan y terfyn trosiant £36 miliwn, rydym yn ymrwymedig i wneud hyn o’n dewis fel rhan o’n rhwymedigaeth i dryloywder a llywodraethiant da.
Rhodri Llwyd Morgan
Prif Weithredwr
Mehefin 2026