Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Rwy’n falch o gyflwyno Adolygiad Blynyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2022-2023. Wrth i ni ystyried ein cyflawniadau a’n cynnydd, rydym yn llawn balchder a diolchgarwch i’r tîm ymroddedig a’r cefnogwyr gwerthfawr sydd wedi gwneud y cyflawniadau hyn yn bosibl.
Yn yr adolygiad blynyddol hwn, byddwch yn gweld y daith ryfeddol yr ydym wedi cychwyn arni, y cerrig milltir yr ydym wedi’u cyrraedd, a’r weledigaeth sy’n ein gyrru ymlaen. Mae ein hymrwymiad i warchod a rhannu treftadaeth ddiwylliannol Cymru yn parhau i fod yn ddiwyro, a llynedd cymerwyd camau breision tuag at gyflawni ein nodau.
Rydym wedi parhau i ehangu ein casgliadau digidol, gan wneud hanes a diwylliant cyfoethog Cymru yn fwy hygyrch i gynulleidfa fyd-eang sy’n tyfu’n barhaus. Mae ein partneriaethau â sefydliadau fel Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cryfhau ein traweffaith ac wedi ymestyn ein cyrhaeddiad, gan helpu i amlygu cyfraniadau disglair Cymreig i’r byd.
Rwy’n arbennig o falch bod ymroddiad ein staff a’n partneriaid wedi gweld sefydlu Archif Ddarlledu Cymru. Bydd yr archif yn adnodd gwerthfawr ar gyfer gwarchod treftadaeth ddiwylliannol, hanes a chynnwys cyfryngau Cymru. Bydd yn gwasanaethu dibenion addysgol, ymchwil, diwylliannol a hanesyddol a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Bydd y Ganolfan Archif Ddarlledu Cymru arloesol sydd newydd ei datblygu yn y Llyfrgell Genedlaethol a’r 'corneli clip' o amgylch Cymru yn caniatáu mynediad am ddim i aelodau’r cyhoedd a chymunedau at ddeunydd archifol amhrisiadwy. Rydym yn ddiolchgar i BBC Cymru, S4C, ITV Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad wrth sefydlu’r gwasanaeth newydd hwn i bobl Cymru.
Partneriaeth newydd a chyffrous arall sydd wedi’i sefydlu yw’r un rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a’r Smithsonian yn Washington sydd wedi arwain at ddychwelyd Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1924 i Gymru. Roedd y Ddeiseb Heddwch yn ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes Cymru ac mae'n enghraifft hanesyddol bwysig o gyfranogiad menywod mewn ymgyrchoedd heddwch a’u hymdrechion i atal gwrthdaro yn y dyfodol yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Llofnododd bron i 400,000 o fenywod Cymru y ddeiseb ac er nad oedd hi wedi arwain at newidiadau polisi ar unwaith, cyfrannodd at y mudiad heddwch ehangach a chodi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd heddwch a diarfogi. Mae’r ddeiseb bellach yn cael ei digido a bydd yn ganolbwynt i’n prif brosiect torfoli yn ystod 2023/2024.
Rydym hefyd wedi croesawu’r cyfle i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru wrth ddatblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Mae hwn yn ddatblygiad gwirioneddol gyffrous gan y bydd yn darparu llwyfan rhagorol i’n hartistiaid arddangos eu gweithiau gwych, hyrwyddo creadigrwydd, a chael buddion economaidd, addysgol a chymdeithasol, wrth gyfrannu at y byd celf ehangach a’r disgwrs ar yr un pryd.
At hynny, mae ein hymrwymiad i addysg ac ymgysylltu â’r gymuned wrth wraidd ein cenhadaeth. Rydym wedi llwyddo i gyrraedd dysgwyr o bob oed, gan ddarparu adnoddau a chefnogaeth i’r meddyliau chwilfrydig sy’n ceisio gwybodaeth ac ysbrydoliaeth. Mae ein harddangosfeydd, ein digwyddiadau a’n rhaglenni ymgysylltu wedi ennyn gwerthfawrogiad dyfnach o’r tapestri diwylliannol sy’n gwneud Cymru’n unigryw.
Yn yr adolygiad blynyddol hwn, byddwch yn gweld tystiolaeth o’n cynnydd, gan gynnwys straeon a chyflawniadau’r bobl sydd wedi cael eu cyffwrdd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r tudalennau wedi’u llenwi â’r naratifau calonogol sy’n adlewyrchu’r traweffaith ddwys y mae ein gwaith wedi’i chael ar unigolion, cymunedau a’r genedl gyfan.
Wrth i ni edrych ymlaen, mae ein hymrwymiad i’n cenhadaeth yn parhau’n ddiysgog. Rydym yn cael ein gyrru gan y gred bod cadw a dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol yn hanfodol ar gyfer lles cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn rhagweld dyfodol lle bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i fod yn chwarel ddihysbydd o wybodaeth, ysbrydoliaeth a balchder diwylliannol.
Diolch am eich cefnogaeth, ymroddiad a brwdfrydedd parhaus. Ni fyddai Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr hyn ydyw heddiw heboch chi. Rydym yn gyffrous am y daith sydd o’n blaenau, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i lunio dyfodol Cymru trwy bŵer gwybodaeth a diwylliant.
Pedr ap Llwyd
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd