Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn ystod 2022-23 lansiodd y Llyfrgell brosiect Cymunedau Cymru sydd yn adrodd hanes cymunedau amrywiol Cymru. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu o gronfa gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.
Roedd prosiect gydag Ysgol Monkton yn sir Benfro a chymunedau sipsiwn a theithwyr yn canolbwyntio ar bwysigrwydd straeon ac adrodd straeon o fewn cymuned y teithwyr. Rhoddwyd y pwyslais ar barchu cefndir a thraddodiadau pobl sydd yn wahanol i’w gilydd. Mae chwedl a straeon yn rhan annatod o’r traddodiad Cymreig a thraddodiadau’r cymunedau Sipsiwn fel ei gilydd, a chasgliadau’r Llyfrgell yn addas iawn ar gyfer cefnogi’r gwaith.
Prosiect arall oedd un gydag Ysgol Uwchradd Cathays, Addewid Caerdydd ac UNIFY i edrych ar hanes cymunedau Caerdydd. Penllanw’r gwaith hwn oedd cynhyrchu murlun yn seiliedig ar y prosiect ar waliau allanol yr ysgol, a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith trwy bresenoldeb gweledol.
Canolbwyntio ar y Cymry alltud o Bortiwgal oedd pwyslais project arall, gan weithio gydag Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, Casgliad y Werin, a Tŷ Pawb ar y syniad o Gynefin sy’n ganolog i’r cwricwlwm newydd.
Ym mhob un o’r prosiectau hyn roedd y tîm yn gweithio gyda phencampwyr o fewn y cymunedau er mwyn codi proffil y gwaith a rhoi hygrededd lawnach iddo. Mae modd cefnogi a chyfoethogi’r gwaith gydag eitemau perthnasol o gasgliadau y Llyfrgell, a’u defnyddio i gyfrannu at greu gwell dealltwriaeth o hanes a hunaniaeth.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru benderfynol o sicrhau bod ei chasgliadau a’i gwasanaethau fod yn fwy cynrychioliadol o wahanol agweddau ar fywyd a hanes Cymru. Rydym am chwarae rhan weithredol wrth greu Cymru Gwrth-hiliol a chyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn gweithio at wireddu hyn penodwyd Miidong P. Daloeng yn Swyddog Prosiect Dadgoloneiddio Archifau ym mis Ionawr 2023 gan weithio ar y prosiect am gyfnod o 2 flynedd. Bydd y swydd hon yn dod o hyd i ffyrdd o godi’r rhwystrau at gasgliadau yn ymwneud â’n treftadaeth a’n diwylliant trwy brofiadau perthnasol, arloesol a deniadol sy’n apelio at ystod o gymunedau.
Bydd Miidong yn dechrau drwy ymgyfarwyddo â chasgliadau helaeth y Llyfrgell a’n gweithio tuag at gyhoeddi Calendr amrywiaeth ar-lein i Gymru a’r Byd. Bydd y calendr yn nodi dyddiadau crefyddol, diwylliannol, ymwybyddiaeth, amrywiaeth, digwyddiadau coffa a gwyliau cyhoeddus gan ddefnyddio casgliadau cyfoethog y Llyfrgell Genedlaethol, a chyfeirio at lyfrau, archifau a llawysgrifau perthnasol, ffotograffau a delweddau, deunydd clyweledol a chasgliadau digidol.
Mae Cynllun Gwirfoddoli’r Llyfrgell Genedlaethol yn agored i bawb ac yn rhagweithiol wrth gynnig cyfleoedd a bod yn gynhwysol i rai gydag anableddau. Yn 2022-23 roedd 10% o’n wirfoddolwyr yn wynebu rhwystrau corfforol neu feddyliol i’r gweithle, 5% o’n wirfoddolwyr yn bobl anabl a 18% yn ddi-waith.
Mae’r ystafell gwirfoddolwyr newydd gafodd ei hagor yn 2023 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae’r Uned Gwirfoddoli naill ai wedi gweithio gyda’r cyrff canlynol, neu wedi derbyn hyfforddiant ganddyn nhw yn ystod 2022-23: The Neurodiverse Museum – Museums & Neurodiversity; Canolfan Byd Waith - Rhoi Gallu yn Gyntaf; CAVO – Recruiting Volunteers post-Covid; WCVA – Ymgynghoriad Strategol Rhagnodi Cymdeithasol; Bwrdd Iechyd Hywel Dda – Sesiwn galw i mewn yn Gorwelion yn chwarterol. Mae gwirfoddolwyr y Llyfrgell hefyd wedi bod yn is-deitlo cyflwyniadau LLGC ar YouTube ar gyfer y byddar.