Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Chwaraeoedd y Llyfrgell a Wicipedia Cymru ran allweddol wrth ddatblygu system gwestiynau ar gyfer ap cwis newydd Cymraeg Cwis Bob Dydd a lansiwyd ar y 9fed o Dachwedd 2022. Comisiynwyd yr ap gan S4C ar y cyd gydag Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, gan gyrraedd dros 6,000 o chwaraewyr erbyn diwedd y tymor cyntaf. Bwriad y cwis yw creu lle hwyl a hygyrch i ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd ac i gyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Mae angen cronfa o filoedd o gwestiynau i’w cynnig yn ddyddiol ar yr ap ac roedd cyfraniad ac arbenigedd y Llyfrgell i gronfa ddata Wikidata yn allweddol er mwyn gallu creu amrediad eang a synhwyrol.
Mae gan y Llyfrgell bartneriaieth gyda WikimediaUK sy’n ein ymrwymo i rannu ein data, cynnwys a gwybodaeth yn agored ar lwyfannau Wikimedia er mwyn ehangu mynediad I’n casgliadau ac i ddata iaith Gymraeg am pob math o bynciau. Mae’r ap Cwis Bob Dydd yn enghraifft arbennig o sut mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at ddefnydd a gwelededd y Gymraeg ym mywyd bob dydd.
Mae’r Uned Gwirfoddoli yn cynnal Clwb Sgwrsio yn rheolaidd sydd yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ddod yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg a gwella eu sgiliau iaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd am sgwrs anffurfiol dros baned, mae’r clwb sgwrsio hefyd yn cynnig cyfle i’n gwirfoddolwyr wella eu sgiliau iaith. Mae gwirfoddolwyr y Llyfrgell wedi elwa o’r cyfleoedd hyn, a llwyddodd tri ohonyn nhw i ennill gwobrau ym Mhabell y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, 2022