Symud i'r prif gynnwys

Deiseb Heddwch Menywod Cymru

Mae Deiseb Heddwch canmlwydd oed a lofnodwyd gan bron i 400,000 o fenywod Cymru wedi cyrraedd yn ôl i Gymru o’r Unol Daleithiau am y tro cyntaf ers canrif, ac i’w chartref newydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ym 1923, ar ôl colledion erchyll y Rhyfel Byd Cyntaf, trefnodd menywod Cymru ymgyrch ryfeddol dros heddwch. Arwyddodd 390,296 o fenywod y ddeiseb oedd yn apelio ar fenywod America i alw ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig, a thrwy hynny wireddu’r gobaith o heddwch rhyngwladol. Cyflwynwyd y Ddeiseb i fenywod America yn Efrog Newydd yng ngwanwyn 1924 a chafodd y papurau a’r gist y cludwyd hwy ynddi eu diogelu yn Amgueddfa Genedlaethol Hanes America y Smithsonian yn Washington DC.

Oddi ar 2019, bu Pwyllgor Partneriaeth ‘Hawlio Heddwch’ yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fenthyg y gist a rhai o bapurau’r Ddeiseb fel rhan o raglen o weithgareddau i ddathlu’r canmlwyddiant. Arweiniodd y trafodaethau dilynol gyda’r Smithsonian at drosglwyddo’r gist i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Daeth cynrychiolwyr o Academi Heddwch Cymru, yn cynnwys Heddwch Nain/Mam-gu Cymru a’r Unol Daleithiau, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth i’r Llyfrgell Genedlaethol ac ar-lein  i groesawu’r Ddeiseb, a chafwyd anerchiad gan y Dirprwy Weinidog Dawn Bowden AS.

Bydd y Ddeiseb a’r gist yn amlwg yn nathliadau’r canmlwyddiant yn ystod 2023-24, ac fel rhan o hyn bydd yn cael ei digido gan dîmoedd arbenigol y Llyfrgell. Pwrpas hyn fydd sicrhau bod pobl ledled Cymru a thu hwnt yn gallu darganfod eu hanes a chael mynediad ati ar y we. Yn dilyn hyn bydd ymgyrch genedlaethol yn cael ei lawnsio i drawsgrifio holl lofnodion y Ddeiseb er mwyn galluogi’r cyhoedd i’w chwilio a darganfod pwy yn union oedd y menywod hyn o Gymru a aeth i chwilio am heddwch. Bydd papurau’r Ddeiseb, y gist dderw y cludwyd y Ddeiseb ynddi i’r Unol Daleithiau, ac eitemau o archif bersonol arweinydd yr ymgyrch Annie Hughes Griffiths hefyd yn cael eu harddangos ar safle’r Llyfrgell yn Aberystwyth tan fis Chwefror 2023.

Degas yn dod i Hwlffordd

Ym mis Mai 2022 agorwyd arddangosfa uchelgeisiol yn Oriel Glan-yr-afon, Hwlffordd, dan y teitl The National Gallery Masterpiece Tour: Trem | Gaze. Yn ganolbwynt iddi oedd portread arbennig Hélène Rouart in her Father’s Study gan Edgar Degas, gan gynnwys hefyd nifer o bortreadau o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Agorwyd yr arddangosfa’n swyddogol gan Ashok Ahir, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Jane Knowles, Pennaeth Arddangosfeydd The National Gallery. Cafodd taith National Gallery Masterpiece Tour ei noddi gan Christie’s.

Bwriad yr arddangosfa oedd gosod y paentiad adnabyddus yn ei gyd-destun trwy archwilio’r ffurf fenywaidd mewn gweithiau celf eraill a dadansoddi theori y ‘drem wrywaidd’ (male gaze) mewn portreadau a hynny trwy lygad artistiaid benywaidd a gwrywaidd, fel Seren Morgan Jones a Syr Kyffin Williams.

Yn ogystal â lansio’r arddangosfa, cynhaliwyd sgwrs gan Laura Llewellyn, Curadur Cyswllt yn y National Gallery, gan ddod â hanes y paentiad, yr artist a’r person yn y llun yn fyw.

Mae Glan-yr-afon yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw yng nghanol Hwlffordd, sir Benfro, gydag oriel sy’n arddangos casgliadau y Llyfrgell. Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2018 ac mae’r cyfleuster ansawdd uchel ac arloesol yma eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol at adfywio’r dref ac ardal ehangach sir Benfro.