Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cynhaliwyd digwyddiad ‘Queer Tales form Wales dan adain Fforwm LHDTC+ y Llyfrgell yn y Drwm ar 7 Mawrth 2023 yn seiliedig ar fywyd Amy Dillwyn (1845-1935), yr ymgyrchydd, diwydiannwr ac awdur o Abertawe. Roedd hefyd yn ymgyrchydd dros hawliau merched ac yn aelod gweithgar o fudiad y National Union of Women’s Sufferage Societies. Roedd ei hewyrth, John Dillwyn Llewellyn Penlle’r- gaer yn un o aroeswyr ffotograffiaeth gynnar yng Nghymru.
Gyda’r Urdd yn dathlu canmlwyddiant eleni, thema stondin y Llyfrgell yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych (30 Mai – 4 Mehefin) oedd hanes y mudiad ei hun, a gwelwyd delweddau o gasgliad yr Urdd yn y Llyfrgell ar baneli mawr o amgylch y Maes yn ogystal. Daeth plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn rhaglen o weithgareddau ar y stondin ac i fwynhau’r arddangosfa oedd yn rhoi sylw i gasgliadau eang am yr Urdd sydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell; dangoswyd eitemau fideo o gasgliad Archif Ddarlledu Cymru yn ogystal.
Hir pob aros ond roedd yn bleser cael croesawu eisteddfodwyr i stondin y Llyfrgell yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron gydag arddangosfa am hanes a diwylliant Tregaron a’r cyffiniau yn tynnu ar gasgliadau amrywiol y Llyfrgell. Am y tro cyntaf cafodd ystafell sinema fechan ei chynnwys yn rhan o’r stondin er mwyn dangos eitemau o gasgliadau’r Archif Ddarlledu Genedlaethol a chafwyd cyfle hefyd i fwnyhau cerddoriaeth fyw a gweithgareddau i blant yn rhan o raglen yr wythnos. Bu’n gyfle yn ogystal i’r Llyfrgell gynnal tri digwyddiad yn Cymdeithasau 1 & 2, a digwyddiadau yn y Lle Celf a’r Tŷ Gwerin; rhoddodd ein Curadur Celf, Morfudd Bevan, sgwrs yn Y Lle Celf ar yr artistiaid ifanc mae’r Llyfrgell yn eu cefnogi ar hyn o bryd, a chafwyd sesiwn ‘O’r Archif’ yn y Tŷ Gwerin gyda Gareth Bonello, Owen Shiers a Ceri Rhys Mathews fu’n edrych o’r newydd ar gasgliadau cerddorol y Llyfrgell ac yn perfformio rhai o’r gweithiau newydd a grewyd ganddynt wedi’u hysbrydoli gan y casgliadau.
Fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant bu’r actores Kim Abodurin yn rhannu gwers hanes am ardal fach o Gaerdydd sydd wedi chwarae rôl fawr yn hanes Cymru dros y ddau gan mlynedd ddiwethaf. Roedd y sioe un person am Betty Campbell yn bwrw golwg ar fywyd a gyrfa yr athrawes o Drebiwt, ac fe’i pherfformiwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu.
Digwyddiad cofiadwy arall oedd parti pen-blwydd arbennig i Phyllis Kinney oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn gant oed ar 4 Gorffennaf. Ganed Phyllis Kinney yn Michigan ar 4 Gorffennaf 1922 a chafodd yrfa lwyddiannus fel cantores, ac yna fel awdur ac ymchwilydd i gerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae archif Phyllis Kinney a’i gŵr Mered yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae’r gantores Gwenan Gibbard yn gwneud gwaith ymchwil ar y casgliad ar gyfer doethuriaeth fel rhan o bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cafwyd cyngerdd i ddathlu yn Oriel Gregynog gyda’r delynores Elinor Bennett yn perfformio, ac Eluned(merch PhyllisKinney a Meredydd Evans) yn rhoi sgwrs ddifyr am fywyd a gwaith ei mam.
Daeth cannoedd o blant i’r Llyfrgell i fod yn rhan o weithdy ar hanes timau cenedlaethol Pêl-droed Cymru yn ystod ymgyrch tîm pêl-droed dynion Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar. Roedd ‘O’r Cae Ras i Qatar’, yn edrych ar hanes timau’r dynion a’r merched ers ffurfio’r tîm cenedlaethol cyntaf yn Wrecsam yn 1876. Yn y sesiwn gyntaf cafodd disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyfle i fwynhau sesiwn holi ac ateb gyda’r cyflwynydd a’r awdur Dylan Ebenezer.