Diolch i’r Dirprwy Weinidog Dawn Bowden AS a’i staff yn Llywodraeth Cymru, y sefydliadau a’r unigolion sydd wedi ein cefnogi’n ariannol ac wedi rhoi o’u hamser a’u sgiliau yn wirfoddol yn ystod 2022-2023. Mae rhoddion a chyfraniadau fel hyn yn sicrhau bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i gyflawni ei photensial fel sefydliad cenedlaethol diwylliannol o bwys ac yn gwasanaethu bobl Cymru.
Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i’r Llyfrgell fod yn gynaliadwy yn ariannol er mwyn sicrhau ein bod yn adnodd amhrisiadwy i fywyd y genedl, heddiw ac i’r dyfodol.
Gyda’n gilydd, gallwn barhau â’r traddodiad o gyfrannu at ddiwylliant a’i gefnogi.
Estynnwn ein diolch arbennig i’r unigolion hynny sydd wedi cyfrannu’n hael yn ystod y flwyddyn at Y Gronfa Gasgliadau.
Diolchwn hefyd i:
Sefydliadau
- Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol
- Cyngor Sir Ceredigion – Rhaglen Cynnal y Cardi
- Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol
- Cyngor Celfyddydau Cymru – Grant Tŷ Cerdd
Unigolion
- Ann Clwyd – Archif Ann Clwyd
Cyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol
- Y Cadeirydd, Gwenda Sippings, a’i chyd-aelodau.
Yr ydym yn ddiolchgar ein bod wedi derbyn cyfraniadau o ystadau’r cymwynaswyr canlynol:
- Alan Barry Perry
Rhif Elusen Gofrestredig: 52577
Am LlGC
- Amdanom ni
- Gweithio gyda ni
- Partneriaethau
- Y Wasg a Newyddion