Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Rhoddwyd Prosiect Datgarboneiddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar waith er mwyn lleihau allyriadau a chwrdd ag uchelgais Llywodraeth Cymru o gydweithio i greu sector gyhoeddus sero-net erbyn 2030. Mae’r Llyfrgell yn uchelgeisiol o ran ei hamcanion a’i hamserlen, ac mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar gyfer y prosiect a ddechreuwyd yn 2021.
Roedd cynnydd ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys: astudiaethau strwythurol thermol, astudiaethau ffensestri dwbl, symud o wresogi nwy at bympiau gwres awyr a daear, a gosod paneli ffotofoltäig ar y tiroedd a’r toeau. Ar ôl arolygon cychwynnol, mae pecynnau gwaith wedi’u dylunio a’u costio a thendrau wedi'u cyflwyno ar gyfer gwaith sydd i ddigwydd trwy gydol 2023/24.
Cwblhawyd y gwaith o osod gwefrwyr cerbydau trydan ar dir y Llyfrgell ym mis Chwefror 2023. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol 10 gwefrydd EV 75kw a 30 gwefrydd 22kw sy’n darparu capasiti ar gyfer cyfanswm o 40 EV sy’n golygu mai’r Llyfrgell Genedlaethol yw’r ganolfan wefru fwyaf yng Nghymru.