Symud i'r prif gynnwys

Llawysgrifau Cymru: cyhoeddi cyfraniad arloesol

Cyhoeddwyd tair cyfrol hirddisgwyliedig Dr Daniel Huws, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800, ym Mehefin 2022, a hynny i gyd-fynd â phen-blwydd yr awdur yn ddeg a phedwar ugain oed. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Celtaidd Prifysgol Cymru yn hynod falch o’u rhan fel noddwyr a chyd-gyhoeddwyr y gwaith.

Cyflwynwyd y cyhoeddiad yn ffurfiol i’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford A.S., Prif Weinidog Cymru, mewn seremoni fawreddog yn Oriel Gregynog ar 20 Mehefin, ar ddechrau cynhadledd dridiau yn y Llyfrgell ar bob agwedd o hanes llawysgrifau’r genedl. Cydnabuwyd ysgolheictod rhyfeddol a llafur oes Daniel ymhellach ar ddiwedd y gynhadledd pan gyflwynwyd iddo fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, er clod.

Yn genedlaethol, derbyniodd y digwyddiad hwn gydnabyddiaeth ar lawr Senedd San Steffan, trwy gyfrwng Cynnig Cynnar-yn-y-dydd seneddol, ac yn Senedd Caerdydd, mewn datganiad gan y Llefarydd. Go brin i ysgolheictod llawysgrifol gyfoes gael y fath sylw gwleidyddol o’r blaen, a chydnabyddiaeth o’i bwysigrwydd a’i berthnasedd i bobl Cymru heddiw.

Mae’r Repertory yn astudiaeth uchelgeisiol o lawysgrifau Cymreig a luniwyd cyn 1800, rhai a ysgrifenwyd yn y Gymraeg, neu sy’n ymwneud â Chymru. Ceir ynddo ddisgrifiadau newydd o lawysgrifau a gedwir bellach mewn nifer o ganolfannau, yma yng Nghymru a’r tu hwnt, gan gynnwys yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ynddo hefyd ceir bywgraffiadau arloesol o’r sgrifyddion hynny a luniodd y llawysgrifau, ynghyd ag esiamplau lu o’u llawysgrifen mewn cyfrol ddarluniadol sy’n cofnodi datblygiad palaeograffeg Gymreig tros fil o flynyddoedd. Ymddengys fod y gwaith yn unigryw o ran ei fwriad a’i ffurf.

Bu’r awdur yn Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell hyd ei ymddeoliad yn 1992. Treuliodd ymhell tros ddeng mlynedd ar hugain yn gweithio ar y gyfrol, gan ymweld â chartrefi cyfoes y llawysgrifau, ac ymgymryd ag astudiaeth fanwl o gannoedd o esiamplau. Manteisiodd staff a darllenwyr y Llyfrgell Genedlaethol ar ei bresenoldeb a’i ddysg yma yn y Llyfrgell tros y blynyddoedd: Daniel, yn wir, yw ein gwirfoddolwr gwreiddiol!

Disgwylir canlyniadau ffrwythlon i lafur Daniel: sefydlir safonau newydd ym meysydd astudiaethau llenyddol a hanesyddol trwy gyfrwng y cyhoeddiad, a bydd y Repertory’n ychwanegiad sylweddol at ddysg yn y meysydd hynny am ddegawdau i ddod.

Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth yng Nghymru

Ym mis Hydref 2022 sefydlwyd Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth yng Nghymru fel rhan o bartneriaeth Rhwydwaith y Llyfr rhwng Prifysgol Abertyswyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ganolog i waith y Ganolfan yn hybu ymchwil academaidd ar lenyddiaeth a hanes meddygaeth mae Casgliad Meddygaeth y Llyfrgell, a sefydlwyd drwy nawdd a chefnogaeth Ymddiriedolaeth Wellcome. Mae’r casgliad hwn yn cynnig mynediad i gyfoeth o adnoddau a ffynonellau llenyddol a hanesyddol a’r gobaith yw y bydd sefydlu’r Ganolfan yn sbarduno mwy o waith gan ymchwilwyr profiadol yn ogystal â denu ymchwilwyr ifainc i’r maes i ddehongli’r dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno yn yr archifau.

I nodi agoriad swyddogol y Ganolfan cynhaliwyd cynhadledd undydd yn y Drwm lle cyflwynwyd papurau yn trafod agweddau ar feysydd ymchwil perthnasol i genhadaeth a gwaith y Ganolfan Feddygol.

Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Prosiect Archif Ann Clwyd

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn y Llyfrgell ar 23 Mawrth 2023 yn trafod gyrfa ac ymgyrchoedd Ann Clwyd, ac i lansio prosiect catalogio ac astudio papurau Ann Clwyd oedd wedi’u cyflwyno i’r Archif Wleidyddol Gymreig yn gynharach. Cafwyd cyfraniadau gan Ann Clwyd, Oliver Craner, Dr James Vaughan, Rob Phillips a Siân Smith oedd wedi ei phenodi i gatalogio’r archif gyfoethog hwn yn Rhagfyr 2022. Mae diolch y Llyfrgell yn fawr i ystad y diweddar Ann Clwyd am ariannu’r swydd hon yn rhannol.

Archif ddigidol Gareth Vaughan Jones

Cynhaliwyd digwyddiad yn y Senedd ar 12 Mai 2022 i anrhydeddu cyfraniad Gareth Jones at newyddiaduraeth a materion rhyngwladol ac i ddathlu cwblhau’r gwaith o ddigido’i archif. Gwnaeth gyfraniad nodedig fel newyddiadurwr yn adrodd ar yr Holodomor yn Wcráin, y tensiynau yn Ewrop yng nghanol y 1930au a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen.

Noddwyd y digwyddiad hwn gan Mick Antoniw AS gyda gwesteion yn cynnwys cynrychiolwyr o Gynghrair Cenedlaethol Merched America Wcráin a Sefydliad Rhyddid Sifil Wcreiniaid Canada a noddodd y gwaith digido, yn ogystal â gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, aelodau o Bwyllgor Ymgynghorol yr Archif Wleidyddol Gymreig, ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac aelodau o deulu Gareth Vaughan Jones. Darllenodd Julian Lewis Jones ddarnau o ddyddiaduron Gareth yn disgrifio’r amgylchiadau a welodd wrth deithio drwy Wcráin i adrodd ar yr Holodomor ar ddechrau 1933.

Archif Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru)

Ym mis Mehefin 2022 rhoddwyd archif cangen Gogledd Cymru Cymdeithas Addysg y Gweithwyr i’r Llyfrgell. Mae’n cynnwys hanes y sefydliad, datblygiad polisi, hanes y gwahanol ganghennau a thiwtoriaid ac effaith yr Ail Ryfel Byd ar waith y gymdeithas. Mae’r archif hefyd yn arwyddocaol oherwydd penodiad Mary Silyn Roberts yn Ysgrifennydd yn dilyn marwolaeth ei gŵr, R. Silyn Roberts, yn ogystal â chysylltiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) â Choleg Harlech, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd a Choleg Rhyngwladol y Bobl yn Nenmarc.

Darlith Flynyddol Archif Wleidyddol Cymru

Traddodwyd Darlith Flynyddol 2022 gan newyddiadurwr y BBC, Huw Edwards. Siaradodd am y portread o Gymru yn y newyddion a rhoddodd gipolwg hynod ddiddorol ar agweddau tuag at Gymru yn y cyfryngau cyn ac ar ôl Datganoli.

Llyfr Nodiadau Etholiad David Lloyd George (Llsgr. NLW 24179)

Gyda chymorth hael gan Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, mae’r Llyfrgell wedi prynu llyfr nodiadau yn cynnwys myfyrdodau David Lloyd George a’i nodiadau ar gyfer areithiau yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1910. Roedd y Rhyddfrydwyr eisoes wedi galw ac ennill etholiad ar fater Cyllideb y Bobl yn gynharach yn yn flwyddyn honno ond galwyd etholiad pellach pan geisiwyd mandad i gyfyngu ar rym Tŷ’r Arglwyddi. Mae’r nodiadau’n llawn o lewyrch rhethregol nodweddiadol Lloyd George ac ymosodiadau ar Dŷ’r Arglwyddi a’r Blaid Geidwadol yn ehangach.

Llythyron oddi wrth Winston Churchill at Eliot Crawshay-Williams

Prynwyd bwndel o lythyrau mewn ocsiwn ym mis Rhagfyr 2022, oddi wrth Winston Churchill at Eliot Crawshay-Williams lle gafodd Crawshay-Williams ei annog i geisio am enwebiad Rhyddfrydol yn etholaeth Chorley. Collodd Crawshay-Williams yr etholiad ond fe etholwyd yn AS dros Gaerlŷr yn ddiweddarach er iddo orfod ymddiswyddo oherwydd ei rôl mewn achos ysgariad yn ymwneud ag AS arall.