Symud i'r prif gynnwys

Amcanion Strategol

Amcan 1 - Cadw a datblygu cof y genedl

  • Diogelu casgliadau drwy sicrhau eu bod yn derbyn gofal a gwaith cadwraethol o’r radd flaenaf, a hyrwyddo rhagoriaeth gan gynnal safonau rhyngwladol mewn perthynas â chadwraeth ffisegol a digidol.
  • Ehangu a datblygu casgliadau archifau a chynnwys unigryw, gan feithrin yr arbenigedd i wella amrywedd y casgliadau ffisegol a digidol a’r modd o’u disgrifio.
  • Cynnal y casgliadau cyhoeddedig cenedlaethol fel unig Lyfrgell Adnau Cyfreithiol Cymru, a gwella mynediad at y casgliad Adnau Cyfreithiol print a di-brint yn Aberystwyth a thu hwnt.

Amcan 2 - Rhannu gwybodaeth am Gymru a'i phobl

  • Ehangu ein rhaglenni ar gyfer rhannu casgliadau yn ddigidol ar blatfformau o’r radd flaenaf er mwyn i’r ystod ehangaf o bobl allu mwynhau mynediadi’r casgliadau.
  • Cydweithio gyda sefydliadau Addysg Uwch a phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i ehangu a diogelu cynnwys digidol-anedig.
  • Tyfu’r casgliadau digidol, clyweledol a digidol-anedig drwy weithio gyda grwpiau a chymunedau, busnesau a sefydliadau partner i ehangu casgliadau cyfoes sy’n adlewyrchu amrywedd y Gymru fodern.

Amcan 3 - Cysylltu cymunedau

  • Datblygu a chydgynhyrchu rhaglenni gydag ystod ehangach o gymunedau Cymru sy’n galluogi’r cymunedau hynny i elwa o’r casgliadau, ac yn caniatáu i’r Llyfrgell ddysgu a gwella o ganlyniad i’r ddeialog greadigol hon gyda chymunedau.
  • Rhoi blaenoriaeth i’r lleisiau a’r profiadau byw sydd wedi eu tangynrychioli yng nghasgliadau a gweithgareddau’r Llyfrgell ac ymrwymo i Gymru wrth-hiliol.
  • Ymgysylltu ymhellach drwy ddatblygu partneriaethau’r Llyfrgell gyda’r sectorau llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru, ein partneriaid Adnau Cyfreithiol, a’n partneriaid rhyngwladol yn y sectorau gwybodaeth a diwylliant.
  • Creu cysylltiadau newydd y tu hwnt i Gymru gyda chymunedau a phartneriaid rhyngwladol a all elwa o gyfoeth y casgliadau am Gymru, a helpu i godi proffil Cymru a’i diwylliant.

Amcan 4 - Addysg, sgiliau ac ymchwil

  • Gweithio’n gydweithredol i ddatblygu adnoddau, sgiliau a phrofiadau sy’n cefnogi dysgwyr ac ysgolion i gwrdd ag anghenion y cwricwlwm newydd, gan gynnwys llythrennedd a llythrennedd gwybodaeth, a dealltwriaeth ddofn o ‘Cynefin’ a chyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol y genedl.
  • Datblygu adnoddau, arbenigedd a sgiliau sy’n cefnogi ymchwilwyr a dysgwyr gydol oes i gwrdd ag anghenion unigolion, grwpiau, a chyflogwyr mewn sectorau gwahanol o’r economi.
  • Datblygu partneriaethau gyda cholegau, prifysgolion a sefydliadau eraill i gefnogi ymchwil ac arloesi drwy ddatblygu gwaith blaengar mewn data cysylltiedig, data mawr, deallusrwydd artiffisial, a’r dyniaethau digidol.

Galluogwyr – Cefnogi a datblygu’r sefydliad

  • Cefnogi a chynnal gweithlu medrus, arbenigol a hyblyg sy’n elwa o fuddsoddiad yn ei sgiliau a’i llesiant ac sy’n ymateb i anghenion a dyheadau pobl Cymru.
  • Sicrhau cynaliadwyedd ariannol drwy reolaeth gwariant ddarbodus, datblygu ffynonellau incwm yn rhagweithiol a buddsoddi’n ddoeth mewn mentrau sydd â chynlluniau busnes cadarn.
  • Cymryd camau uchelgeisiol i gyrraedd sero net erbyn 2030 ac i fod yn sefydliad arweiniol o ran cynaliadwyedd amgylcheddol.
  • Datblygu ystad ac adeiladau’r Llyfrgell i ddarparu gofodau cyhoeddus croesawgar, storfeydd hirdymor effeithlon ar gyfer casgliadau, a gweithle sy’n addas i anghenion y dyfodol.
  • Datblygu isadeiledd technoleg gwybodaeth sy’n wydn yn wyneb heriau seibr-ddiogelwch ac sy’n galluogi arloesi wrth reoli data mawr a safonau technolegol rhyngwladol.
  • Parhau i ddatblygu defnydd y gweithlu o’r Gymraeg fel y prif gyfrwng cyfathrebu bob dydd ac i ennill cydnabyddiaeth fel sefydliad sy’n cefnogi dysgu a defnyddio’r iaith.
  • Cynnal safonau llywodraethiant uchel lle mae ymddiriedolwyr yn herio ac yn cefnogi gweithgareddau a pherfformiad mewn modd sy’n adeiladol ac yn cefnogi cenhadaeth y Llyfrgell.

Blaenoriaethau Gweithredol

Mae’r adran hon yn crynhoi y prif flaenoriaethau gweithredol i roi cyfeiriad i benderfyniadau’n ymwneud ag adnoddau a buddsoddiadau. Caiff y blaenoriaethau hyn eu hadlewyrchu yn glir yn y Cynllun Gweithredol blynyddol.

Datblygu’r Casgliadau Cenedlaethol

  • Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ehangu’r cynnwys unigryw sy’n adrodd straeon Cymru a’i phobl.
  • Byddwn yn adolygu gwasanaethau’r Llyfrgell ar gyfer darllenwyr ac ymchwilwyr gyda’r nod o gynyddu mynediad a rhoi gwerth am arian.
  • Byddwn yn gwella amrywedd a hygyrchedd ar draws y casgliadau gan roi’r lle blaenaf i anghenion a buddiannau defnyddwyr, yn enwedig lle maent wedi eu tangynrychioli yn ein gwaith.
  • Byddwn yn datblygu cynlluniau hirdymor ar gyfer storio casgliadau, arbenigedd ym maes cadwraeth ac isadeiledd digidol gwydn.

Rhannu ac Ymgysylltu

  • Byddwn yn cynyddu’r pwyslais ar hybu iechyd, llesiant, gwrth-hiliaeth a chyfiawnder cymdeithasol drwy ymgysylltu’n ehangach gyda chymunedau a chynulleidfaoedd.
  • Byddwn yn datblygu platfformau blaengar ar gyfer casgliadau digidol er mwyn gwella’r profiad i ddefnyddwyr.
  • Byddwn yn gwella profiad ymwelwyr – drwy ddatblygu adeilad y Llyfrgell i fod yn fwy hygyrch a chroesawgar, gyda rhaglenni gweithgareddau sydd ag apêl ehangach.
  • Byddwn yn creu rhaglenni sgiliau ar y cyd â phartneriaid addysg ac addysg gydol oes i godi safonau llythrennedd gwybodaeth a llythrennedd digidol, ac i feithrin creadigrwydd a chyflogadwyedd.
  • Byddwn yn datblygu partneriaethau newydd i feithrin sgiliau, arloesedd ac ymchwil.
  • Byddwn yn darparu arddangosfeydd dychmygus a chyfleoedd creadigol i wirfoddoli, i gyfranogi ac i fwynhau’r ddarpariaeth.

Datblygu, Newid, Gwella

  • Byddwn yn hyrwyddo gwelliannau sy’n rhoi lle canolog i’r defnyddiwr, ac sy’n llywio’n cysylltiadau gyda chymunedau a gyda chynulleidfaoedd digidol.
  • Byddwn yn cyflwyno Rhaglen Newid ac Adnewyddu sy’n hyrwyddo diwylliant uchelgeisiol a mentrus gan roi blaenoriaeth i lesiant, sgiliau a hyblygrwydd y gweithlu.
  • Byddwn yn cynnal y sylfaen gyllidol gref drwy reolaeth ariannol effeithiol a thrwy ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau cynhyrchu incwm.
  • Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau datgarboneiddio a sero net gan fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy.

Llinell amser ar gyfer y datblygiadau baenoriaeth

Maniffesto Digidol — Gan ddefnyddio arbenigedd mewnol ac allanol, llunio Maniffesto i arwain ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer arloesi digidol (erbyn hydref 2025).

Strategaeth Ymgysylltu a Phrofiad Defnyddwyr - Cynlluniau manwl i hybu profiad ymwelwyr a lledaenu rhaglenni ymgysylltu (erbyn hydref 2025).

Strategaeth Casgliadau newydd - Adolygu’r polisïau a’r gweithdrefnau presennol gyda ffocws clir ar ddatblygiad, diogeledd a chadwraeth casgliadau, gwella amrywedd, a hwyluso mynediad ehangach (erbyn gwanwyn 2026).

Storfeydd a Chadwraeth - Cwblhau gwaith atgyweirio sylweddol i doi Storfeydd 1 a 2 (erbyn gwanwyn 2025), a datblygu strategaeth storfeydd hirdymor ar gyfer y Casgliadau Cenedlaethol a chofnodion y genedl (erbyn gwanwyn 2026).

Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Cadwraeth - Datblygu cynllun busnes ar gyfer canolfan genedlaethol a fydd yn cyflenwi darpariaeth sgiliau a gwell cyfleusterau ar gyfer anghenion cadwraeth Cymru (erbyn hydref 2026).

Cynaliadwyedd Ariannol - Rheoli gwerth am arian a gwariant, a pharhau â’r pwyslais ar gynhyrchu refeniw ychwanegol tuag at fodel ariannol cynaliadwy (erbyn 2026/27).

Cyrraedd Sero Net - Cyflawni’r nod (erbyn 2030).


Cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol

Delwedd yn amlinellu cynnwys y strategaeth


Diolch

Diolch am dreulio amser yn darllen ac ymgysylltu gyda’n strategaeth.

Mae eich diddordeb a'ch cefnogaeth yn holl bwysig er mwyn creu gwaddol parhaol, ac rydym yn llawn cyffro wrth fwrw ati i gysylltu Cymru a’r byd.

Am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau sydd ar y gweill gennym, ewch i:

  • Gwefan: llyfrgell.cymru
  • Instagram: @librarywales
  • Facebook: Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales