Symud i'r prif gynnwys

Yn Etholiad Cyffredinol 1922 gwelwyd adliniad gwleidyddol sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig gan arwain at oruchafiaeth y Ceidwadwyr a Llafur am y ganrif ganlynol a darostwng y Rhyddfrydwyr i statws trydydd plaid. Yng Nghymru, enillodd y Blaid Lafur union hanner y seddi ac mae wedi cynnal ei statws fel plaid fwyaf Cymru o ran cynrychiolaeth etholiadol yn Senedd y DU ac yn Senedd Cymru ers 100 mlynedd. Er nad yw’n anghyffredin bod un blaid yn dominyddu gwleidyddiaeth gwlad am sawl degawd, mae canrif o oruchafiaeth yn anarferol a chanrif o oruchafiaeth ddi-dor yn ddigyffelyb.

Mae’r Blaid Lafur wedi ailddyfeisio’i hun droeon, gan addasu i amgylchiadau cyfnewidiol a chyflawni llawer o ddiwygiadau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol. Mae llinell amser Llafur 100 yn amlygu rhai o’r adegau allweddol a’r bobl y tu ôl iddynt yn hanes Llafur Cymru.

Beth yw Llafur100?

Mae Llafur100 yn brosiect sydd wedi’i arwain gan wirfoddolwyr a’i gefnogi gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ffrwyth gwaith y cydweithrediad yma yw’r llinell amser. Mae’n cynnwys digwyddiadau cerrig milltir, straeon personol, deunydd archifol a chyfweliadau arbennig, oll wedi’u cyfrannu gan wirfoddolwyr, Seneddwyr a llunwyr polisi, a phartneriaid eraill.  

Mae croeso i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau i gael copi hygyrch o'r llinell amser.