Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cynhyrchwyd yr adnoddau fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru oedd yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Defnyddiwyd eitemau gwreiddiol o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu dwyieithog. Mae'r adnoddau yn adrodd hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru o safbwynt Cymreig gan ddefnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd sy'n dod o Gymru'n bennaf.
Mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn adnodd arlein di-dâl gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad cyfoethog y Llyfrgell.
Mae gan y Llyfrgell gasgliad mawr o fapiau yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cynnwys mapiau sy'n dangos y sefyllfa wleidyddol ar y noson cyn y Rhyfel, mapiau milwrol a sifil yn dangos y newidiadau ar flaen y gad yn ystod y Rhyfel, a mapiau sy'n dangos newidiadau i'r ffiniau cenedlaethol oherwydd y Rhyfel.
Yma ceir llawysgrif o awdl ‘Yr Arwr’ yn llaw’r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917) a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn dilyn ei farwolaeth yn 1917.
Gêm sy'n defnyddio'r syniad o hangman i gyflwyno gwybodaeth am y Rhyfel Byd Cyntaf a sut yr oedd cod morse yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu yn ystod y rhyfel.