Yr Arwr, Hedd Wyn

Cyfeirnod: NLW MS 4628C

Yma ceir llawysgrif o awdl ‘Yr Arwr’ yn llaw’r bardd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans, 1887–1917) a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn dilyn ei farwolaeth yn 1917. Un o ddrafftiau terfynol Hedd Wyn o’r awdl yw’r llawysgrif hon. Mae'r fersiwn gwreiddiol ohoni yng nghasgliad yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ystyrir Hedd Wyn yn un o feirdd amlycaf Cymru, ac ystyrir ‘Yr Arwr’ gan lawer fel ei gerdd fwyaf nodedig.

Hedd Wyn

Ganed Ellis Humphrey Evans yn Nhrawsfynydd, ar 13 Ionawr 1887, yn fab hynaf i Evan a Mary Evans. Wedi iddo adael yr ysgol yn 14 oed bu’n gweithio fel bugail ar fferm ei rieni, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd. Yn ei lencyndod bu’n barddoni a chystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol o dan y ffugenw ‘Hedd Wyn’, a thrwy’r rhain fe ddatblygodd ei ddawn fel bardd.

Enillodd y gyntaf o’i 6 cadair yn Eisteddfod y Bala yn 1907 am ei awdl ‘Y Dyffryn’, a daeth yn agos iawn at gipio’i gadair gyntaf mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth yn 1916. Gyda dechrau’r Rhyfel Mawr yn 1914 newidiodd naws gweithiau Hedd Wyn i drafod hunllef y rhyfel ac ysgrifennodd gerddi er cof am gyfeillion a fu farw ar faes y gad. Yn Hydref 1916 dechreuodd Hedd Wyn weithio ar gyfansoddi ei awdl ‘Yr Arwr’, cyn ei orfodi o ganlyniad i Ddeddf Orfodaeth Filwrol 1916 i ymuno â 15fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a hwylio i Ffrainc ym mis Mehefin 1917.

Yr Arwr

Mae’r llawysgrif hon yn cynnwys 25 o dudalennau ac arnynt ceir cywiriadau mewn pensil. Ar gefn y llawysgrif gwelir mai ‘Y Palm Bell’ oedd y ffugenw cyntaf a ddewisiodd, ond yn ôl William Morris yn ei gyfrol ar Hedd Wyn, mae'n debyg ei fod wedi newid ei ffugenw o ‘Y Palm Bell’ i ‘Fleur-de-lis’ ychydig cyn postio’r awdl o bentref Fléchin yng ngogledd Ffrainc ym mis Gorffennaf 1917.

Mae’r awdl wedi ei rhannu yn 4 rhan ac mae’n cynnwys 2 brif gymeriad, sef ‘Merch y Drycinoedd’ a’r ‘Arwr’. Bu llawer o anghytuno yn y gorffennol ynghylch ystyr yr awdl, ond gellir dweud gyda sicrwydd bod Hedd Wyn (fel ei hoff fardd Shelley) yn dyheu am ddynoliaeth berffaith a byd perffaith ar adeg o ansefydlogrwydd enfawr yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Credir bod ‘Merch y Drycinoedd’ yn symbol o gariad, harddwch natur a’r awen greadigol. Tybir bod cymeriad ‘Yr Arwr’ yn symbol o ddaioni, tegwch, rhyddid a chyfiawnder, ac mai trwy ei aberth ef a’i uniad â ‘Merch y Drycinoedd’ ar ddiwedd yr awdl y daw oes well.

Ar 31 Gorffennaf 1917, fe laddwyd Hedd Wyn ar faes y gad yng nghaeau Fflandrys, a hynny ym mrwydr Cefn Pilkem ger Ieper (Ypres). Pan alwyd ar ‘Fleur-de-lis’ i ddod i dderbyn ei wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917, ni chododd unrhyw un a bu rhaid i’r Archdderwydd Dyfed hysbysu’r dorf o farwolaeth y bardd ar faes y gad. Gorchuddiwyd y gadair â gorchudd du ac o hynny ymlaen cafodd Eisteddfod Penbedw 1917 ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu.

Casgliad J R Jones

Fe gyflwynwyd y llawysgrif i’r Llyfrgell Genedlaethol gan J R Jones, ysgolfeistr o Lwyn Celyn, Trawsfynydd ym mis Mawrth 1934. Un rhan o’r llawysgrif yw’r gerdd hon. Mae'r llawysgrif hefyd yn cynnwys eitemau eraill yn llaw’r bardd, yn ogystal â ffotograffau ohono a llyfr nodiadau yn llawn gweithiau Hedd Wyn yn llaw J R Jones ei hun. J R Jones oedd un o brif sylfaenwyr ac ysgrifennydd pwyllgor lleol a grëwyd gan gyfeillion a chyfoedion Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ym 1917 i gofio’r bardd. Bu’r pwyllgor yn gyfrifol am gasglu ynghyd gweithiau Hedd Wyn a’u cyhoeddi dan y teitl Cerddi’r Bugail ym mis Awst 1918, dan olygyddiaeth J J Williams. Aeth cyfraniadau ariannol a gasglwyd gan y pwyllgor at greu cofeb i’r bardd yn Nhrawsfynydd yn Awst 1923.

Darllen pellach

  • Alan Llwyd, Gwae fi fy myw (Llandybie: Cyhoeddiadau Barddas, Gwasg Dinefwr, 1991)
  • Alan Llwyd (gol.), Cerddi’r Bugail (Caerdydd: Hughes a’i Fab, 1994)
  • Eurwen Morris, Bardd yr Ysgwrn (Y Faner Newydd, rhifyn 44, Haf 2008)
  • William Morris, Hedd Wyn (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1969)
  • Ceir fersiwn arall o'r awdl 'Yr Arwr' gan 'Fleur-de-lis' (Ellis Evans, 'Hedd Wyn', Trawsfynydd) ynghyd â beirniadaethau T. Gwynn Jones, 'Dyfed' a J. J. Williams ar wefan Cymru1914.