Mudo i America
Er bod y niferoedd o Gymry a fudodd i America ac Awstralia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn is o lawer nac o wledydd llai diwydiannol, megis Iwerddon, gadawodd nifer sylweddol o Gymry yn y gobaith o fywyd gwell. Amcangyfrifir bod tua 60,000 o bobl wedi mynd o Gymru i'r Unol Daleithiau yn ystod y cyfnod 1850-70.
Awgrymwyd nifer o ffactorau am fudo o Gymru yn ystod blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd llawer o'r tenant ffermwyr a gweision fferm Cymreig yn byw mewn tlodi. Hefyd, golygai'r ansefydlogrwydd yn y marchnadoedd glo a dur bod cyflogaeth llawer o'r gweithwyr dur a'r glowyr yn annibynadwy.
Pan siaradai radicaliaid fel Samuel Roberts ('S.R.'; 1800-85) a Michael D. Jones (1822-98) o blaid ymfudo, yr oedd llawer yn barod i wrando. Gwelwyd ymfudo'n aml fel cyfle i fod yn berchen ar dir mewn cyfnod pan oedd y mwyafrif o dir Cymru yn nwylo'r bonedd. Aeth eraill i weithio yng nglofeydd a chwareli yr ardaloedd diwydiannol.
Heidiodd llawer o'r ymfudwyr yma i gymunedau o Gymry America, fel Cambria yn Pennsylvania, Gallia yn Ohio ac Oneida yn nhalaith Efrog Newydd. Ymfudodd cymaint o Gymry i Wisconsin fel y bu angen cyfieithu cyfansoddiad y dalaith i'r Gymraeg.
Yr achos enwocaf o ymfudiad Cymreig oedd yr ymgais a wnaed gan Michael D. Jones ac eraill i sefydlu gwladychfa ym Mhatagonia, yr Ariannin. Glaniodd yr ymfudwyr Cymreig cyntaf ym Mhorth Madryn yn 1865 ac mae poblogaeth fechan o drigolion sy'n medru'r Gymraeg yn parhau yno hyd heddiw.