Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: Llsgr. LLGC 22424F

Yma ceir 7 rhifyn o ‘Cymro’ sef cylchgrawn a grëwyd gan garcharorion rhyfel Cymreig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aelodau o’r ‘Cymric Club’ yng ngwersyll Stalag IVB ger Mühlberg yn yr Almaen oedd yn gyfrifol amdano, ac mae’r rhifynnau yn dyddio o’r cyfnod rhwng Gorffennaf 1943 a Rhagfyr 1944. Mae’r llawysgrif hefyd yn cynnwys 2 rifyn o ‘20 Bees Buzz’, sef cylchgrawn Saesneg wythnosol a grëwyd gan garcharorion caban 20B yn yr un gwersyll yn ystod Ionawr 1945.

William John Pitt o Dreharris (1920-1988), oedd perchennog y llawysgrif. Ef oedd golygydd cylchgronau ‘Cymro’ yn y gwersyll, a chyfrannodd hefyd i’r cylchgrawn ‘20 Bees Buzz’ yn ystod ei amser yno. Prynwyd y llawysgrif gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Sotheby’s yn 1987.

Cymro

Mae'r llawysgrif yn cynnwys 3 rhifyn o ‘Cymro’, gydag un rhifyn Nadolig arbennig, a 3 rhifyn atodol o’r cylchgrawn. Cafodd 8 rhifyn eu creu, ac o’r rhain collwyd un yn y gwersyll. Er mai Saesneg yw cyfrwng pennaf ‘Cymro’, ceir 2 dudalen yn y Gymraeg. Fel yr holl weithiau a ‘gyhoeddwyd’ o fewn y gwersylloedd, dim ond un copi o bob cylchgrawn a grëwyd ar gyfer eu cylchredeg o amgylch y gwersyll.

Roedd gan bob caban yn y gwersyll gynrychiolydd a fyddai’n gyfrifol am drosglwyddo unrhyw ddeunydd i’w gynnwys yn y cylchgrawn i’r golygydd William John Pitt. Yn ogystal roedd y golygydd yn awyddus iawn i’r milwyr adrodd unrhyw newyddion a oedd yn eu llythyrau personol. Dywed yn rhifyn 2 o ‘Cymro’, Mai 1944: ‘…comb those letters for news from home. The rest of the club wants to know it as well.’ Ac eto, ‘Let us all resolve to do our best to strengthen the club until the Cymric Club becomes the hallmark of the effort in the club.’

Cynnwys y cylchgronau

Roedd y cylchgronau'n cynnwys newyddion ac erthyglau a fyddai o ddiddordeb i filwyr Cymreig yn cynnwys Y Gwarchodlu Cymreig, Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ac erthyglau am Gymry enwog megis yr actorion Emlyn Williams a Stanley Baker, a’r bocsiwr Charlie Bundy. Yn ogystal ceir fersiynau o chwedlau Cymreig fel chwedl Gelert gan Dai Davies a chwedl Arthur gan Emrys Evans, ynghyd â hanesion gwahanol ardaloedd megis erthygl Idwal Pugh am hanes Pumlumon. Mae’r cylchgronau hefyd yn fodd o roi cipolwg i ni ar fywyd y carcharorion yn y gwersylloedd. Yn rhifyn 2 o’r ‘Cymro’, Mai 1944 gwelir bod y Cymry yn awyddus iawn i greu côr Cymreig yn y gwersyll. Dywed y golygydd, William John Pitt: ‘The choir is the epitome of Welsh endeavor and the formation of one here seemed a natural conclusion.’ Mae mwyafrif y rhifynau yn cynnwys darluniau dyfrlliw a chartwnau pen ac inc.

Ymhlith y cyfranwyr roedd:

  • William John Pitt
  • Ellis Evans
  • T Tyler
  • Idwal Davies
  • C Evans
  • Idwal Pugh
  • Gareth Prytherch
  • Dai Davies
  • Eddie Williams
  • George Evans
  • Emrys W Evans
  • W V Roderick
  • Ken Wiltshire

20 Bees Buzz

Yn anffodus dim ond dau rifyn a grëwyd o’r cylchgrawn ‘20 Bees Buzz’. Dyma gylchgrawn wythnosol llawn newyddion a difyrrwch a grëwyd gan garcharorion caban 20B yn ystod Ionawr 1945. Mae oes fer y cylchgrawn yn adlewyrchu’r ffaith fod amodau byw’r carcharorion wedi dechrau dirywio tipyn erbyn diwedd y rhyfel, gyda llai o adnoddau yn dod i mewn i’r gwersylloedd. Yn y ddau rifyn yma ceir newyddion ar wahanol berfformiadau a gynhaliwyd yn y gwersyll, yn ogystal â straeon byrion.

Stalag IVB

Stalag IVB oedd un o’r gwersylloedd carcharorion mwyaf yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gallai ddal 16,000 o garcharorion. Lleolwyd y gwersyll ger tref Mühlberg, rhwng Berlin a Dresden. Bu milwyr o 33 cenedl wahanol trwy’r gwersyll.

Erbyn i fyddin Goch yr Undeb Sofietiaidd gyrraedd ar 23 Ebrill 1945, roedd y gwersyll yn orlawn gyda 30,000 o garcharorion, ac o’r rhain roedd 7,250 yn Brydeinwyr. Dioddefodd y carcharorion yn wael o ganlyniad i’r gorboblogi gyda diffyg bwyd, gwelyau a dillad. Bu farw tua 3,000 o garcharorion yn y gwersyll – y mwyafrif ohonynt yn dioddef o’r diciâu neu deiffws.

Darllen pellach

  • Audrey James, Flightpath to Stalag IVB, The story of W. O. Arthur Briggs, RAF (Efrog: Ebor Press, 2004)
  • James Arthur Davies, A leap in the dark. A Welsh Airman’s Adventures in Occupied Europe (Llundain: Leo Cooper, 1994)
  • Jim Longson & Christine Taylor, An Arnhem Odyssey (Llundain: Leo Cooper, 1991)
  • John Richard Worthington Poole-Hughes, Escape (Llandaff Society Occasional Paper, 9, Hydref 1993)
  • Sydney Prichard, Life in the Welsh Guards 1939-46 (Talybont: Y Lolfa, 2007)
  • Tom Swallow & Arthur H. Pill, Flywheel, Memories of the Open Road (Caerwysg: Webb & Bower, 1987)

Dolenni perthnasol