Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 23137E

Pwy oedd Sarah Jacob (1857-1869)

Ganwyd Sarah Jacob ar fferm Llethr-neuadd, Llanfihangel-ar-arth, Sir Gaerfyrddin ar 12 Mai 1857, yn un o saith o blant Evan Jacob (1830-95) a’i wraig Hannah (née Williams 1830-1907). Nodir yn y llawysgrif bod ei rhieni’n ‘garedig a da i’w plant, a bod Sarah’n hoff iawn o’i rhieni.’ (f.83r) Mynychodd Sarah ysgol Pencader; mae’n debyg ei bod ‘above ordinary inteligence … and a precocious child’ (f.7r) a'i bod yn medru siarad a darllen Saesneg yn eithaf da (f.40r). Adroddir iddi ymddangos yn holliach cyn iddi fynd yn sâl ym mis Chwefror 1867, gan ddioddef ffitiau cyn syrthio’n anymwybodol am fis.


Stori Sarah Jacob

Ni fedrodd y meddyg lleol, Henry Harries Davies, wneud diagnosis. Roedd hi'n gaeth i’w gwely ac erbyn mis Hydref gwrthodai fwyta nac yfed a thyngodd ei rhieni na fyddent yn ei gorfodi. Nodir bod ei rhieni'n ymddangos yn ofidus am salwch eu merch ac na wnaethant geisio unrhyw gyhoeddusrwydd i’w hympryd.

Mewn llythyr i’r Welshman ar 19 Chwefror 1869, ysgrifennodd Evan Jones, y ficer lleol, am yr hanes gan galw ar i feddygon ymchwilio i’r achos. Lledodd yr hanes ac erbyn haf 1868 roedd y papurau newydd yn trafod stori’r ferch wyrthiol a oedd heb fwyta nac yfed ers 10 Hydref 1867. Teithiodd llu o ymwelwyr i’w gweld gan ddod ag anrhegion iddi. Ym Mawrth 1869, gyda chaniatâd ei theulu, apwyntiwyd 4 person i’w gwylio am bythefnos, i brofi ei bod yn byw heb fwyd ‘ac yn ystod y cyfnod yna methont a chanfod yn bendant nad oedd [Sarah]’n cymryd unrhyw fwyd o gwbwl.’ (f.82r) Cyhoeddwyd y canlyniad yn y papurau, a heidiodd mwy o bobl i’w gweld.

Bu tipyn o drafod yng nghylchgrawn meddygol The Lancet. Galwodd y meddyg blaenllaw Robert Fowler (1828–1886) i weld Sarah ym mis Awst, gan ddatgan yn y Times ar 7 Medi ei bod yn dioddef o ‘simulative hysteria’. Awgrymodd ei bod yn twyllo a’i bod yn bwyta yn ystod y nos. Erbyn mis Tachwedd ‘roedd y cyhoedd unwaith eto’n awyddus i ymchwilio i’r wyrth honedig, ac fe wnaeth John Griffiths (alias Gohebydd) fynd ati ... i drafod gyda’r awdurdodau yn Ysbyty Guy’s’ (f.82r) ac fe’i perswadiwyd i ganiatáu i 4 nyrs o’r Ysbyty i weithredu fel gwylwyr. Galwodd gyfarfod cyhoeddus ar 30 Tachwedd, lle’r arwyddwyd cytundeb gan Evan Jacob ‘gyda gwybodaeth a chaniatâd’ Sarah (f.84r) i ‘drosglwyddo rheolaeth yr ystafell lle gorweddai [Sarah], ac o Sarah ei hun’ (f.84r), i’r pedair nyrs o Ysbyty Guy’s a thîm o 7 meddyg lleol i'w gwylio ddydd a nos.

‘Ar y 9fed o Ragfyr … cychwynodd y gwylio ac aed ati’n llawn ynni tan dydd Gwener y 17eg pan fu [Sarah] farw, ac ni chafod na bwyd na diod ei gynnig na’i roi i’r plentyn drwy’r holl gyfnod.’ (f.83r) Yn ôl tystiolaeth Elizabeth Clench, un o’r nyrsys ‘nid amcan y gwylio oedd atal bwyd, ond canfod os oedd bwyd yn cael ei roi’ (f.23r). Dywed nyrs arall, Anne Jones, ‘mi es at y tad a’r fam a dweud wrthynt bod y plentyn yn wael iawn, gan ddweud y byddwn pe bai’n blentyn i mi, yn rhoi diod neu ddiferyn o frandy a dŵr mewn llwy iddi. Dywedont wrthyf am beidio rhoi dim iddi’ (f.55r). Bu Sarah farw ar 17 Rhagfyr 1869.

Cynhaliwyd y cwest ar 21 Rhagfyr 1869. Tystia John Phillips, un o’r ddau lawfeddyg a wnaeth yr archwiliad post-mortem, iddi farw o ‘wacâd oherwydd diffyg bwyd … ni chanfuwyd bwyd o unrhyw fath yn ei stumog, nac unrhyw hylif yn ei phledren (f.62r) … nid oes tystiolaeth i awgrymu unrhyw achos arall heblaw diffyg bwyd a diod am wyth diwrnod’ (f.66r). Penderfynwyd erlyn yr oedolion a oedd wedi caniatáu iddi farw – ei rhieni a’r meddygon a oedd wedi ei goruchwylio - am ladd anghyfreithlon. Beirniadodd ynadon Caerfyrddin y meddygon am ymddwyn yn ffôl ond anfonwyd ei rhieni i sefyll eu prawf am ‘y drosedd o ladd Sarah Jacob yn fwriadol.’ (f.81r) Dyfarnwyd bod y rhieni’n euog o ddynladdiad. Dedfrydwyd Evan Jacob i flwyddyn o lafur caled yng Ngharchar Abertawe a’i wraig i ddedfryd o chwe mis o garchar.

Darllen pellach

  • Roy Evans NLW MS 10, sy'n cynnwys cyfrol o doriadau papur newydd, 1869-1870, yn ymwneud â marwolaeth Sarah Jacob a'r cwest
  • Llawysgrif D.G. Lloyd Hughes G/34, sy'n cynnwys hanes Sarah Jacob, gan gynnwys carcharu ei rhieni yn dilyn y digwyddiad (cyhoeddwyd yn Y Casglwr, 51, Gaeaf 1993)
  • Robert Fowler, A complete history of the case of the Welsh Fasting-Girl (Llundain, 1871)
  • John Cule, Wreath on the crown: the story of Sarah Jacob, the Welsh Fasting Girl (Llandysul, 1967)
  • H. Roberts, 'Y ferch ryfeddol, neu, Hanes Sarah Jacob, Llethr-neuadd (c.1869)', Y Casglwr, 1993
  • Siân Busby, A wonderful little girl: the true story of Sarah Jacob, the Welsh Fasting Girl (Llundain, 2003)