Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 8323B

Cynnydd mewn tafarndai

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd gor-yfed yn gyffredin yng Nghymru. Gwaethygodd y sefylla yn 1830 pan basiwyd y Ddeddf Gwrw a alluogai unrhyw drethdalwr a dalai ddwy gini'r flwyddyn am drwydded i agor tŷ cwrw. Arweiniodd hyn at gynnydd sylweddol yn nifer y tafarndai, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol a'r trefi.

Gwrthwynebwyd tafarndai'n gynyddol gan lawer o bobl ac am nifer o wahanol resymau: gwragedd oedd yn poeni am eu gwŷr yn gor-yfed, capelwyr yn poeni am safonau moesol a meistri diwydiannol yn poeni am absenoldeb o'r gwaith. O ganlyniad croesawyd sefydlu cymdeithasau dirwest, cyrff a sefydlwyd yn wreiddiol yn yr Unol Daleithiau. Erbyn 1835 yr oedd 25 o gymdeithasau dirwest yng Nghymru gan gynnwys un yn Aberystwyth.

Ar y cychwyn rhoddwyd y pwyslais ar gymedroldeb. Gwelir fod aelodau Cymdeithas Ddirwestol Aberystwyth yn cytuno i ymwrthod â gwirod ar wahân i ddefnydd meddyginiaethol ac yn cytuno i yfed diodydd meddwol eraill, megis cwrw, yn gymhedrol. Ond, o dan ddylanwad y capeli daeth cymdeithasau llwyrymwrthodol yn gynyddol boblogaidd.

Yn ogystal â chofnodion y gymdeithas, ceir hefyd restr o reolau yn ymwneud â chynllun yswiriant salwch a drefnwyd gan y gymdeithas a threfniadau ar gyfer angladdau aelodau. Roedd cynnig gwasanaethau ychwanegol fel y rhain yn gymorth i ennill i'r cymdeithasau dirwest eu lle fel un o gonglfeini'r gymdeithas Gymreig yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd ganddynt eu cylchgronau, caneuon, seremonïau a hyd yn oed eu gwestai eu hunain.


Darllen pellach

  • John Davies. Hanes Cymru. London : Penguin Books, 1992.
  • W.R. Lambert. Drink and Sobriety in Victorian Wales. Cardiff : University of Wales Press, 1983.
  • Islwyn Jones. 'Gwell yw Dŵr i Gylla Dyn' bras-olwg ar hanes dirwest yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Caerdydd : Amgueddfa Werin Cymru, 1986.