Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 22215B

John Cowper Powys

Ganwyd Powys yn Shirley, swydd Derby yn 1872.  Ef oedd yr hynaf o un ar ddeg o blant, mewn teulu a oedd yn nodedig am ei bersonoliaethau unigolyddol.  Daeth ei frodyr, Theodore Francis Powys (1875-1953) a Llewelyn Powys (1884-1939) hefyd yn llenorion mawr.  Clerigwr oedd eu tad, a ymfalchïai yn ei dras Gymreig; roedd eu mam yn disgyn o’r beirdd Saesneg William Cowper a John Donne.

Pan oedd John Cowper Powys yn blentyn, symudodd y teulu i fyw i Dorchester, swydd Dorset, ac wedi hynny, i Montacute, Gwlad yr Haf. Daeth tirlun hen deyrnas Wessex (sef yr ardal sy’n gefndir i nofelau Thomas Hardy) i chwarae rhan bwysig yn ei ddychymyg. Cyhoeddodd Powys ei gyfrol gyntaf o gerddi yn 1896, a’i nofel gyntaf, Wood and Stone yn 1915.

Am bum mlynedd ar hugain, enillai ei fywoliaeth fel darlithydd teithiol yn America a daeth yn enwog fel areithiwr carismataidd ac ysbrydoledig. Ar ymweliad â Missouri yn 1921, cyfarfu â Phyllis Playter (1894-1982), a ddaeth yn bartner iddo ac yn ddylanwad grymus ar ei yrfa lenyddol. Daeth Powys i’w aeddfedrwydd fel llenor yn 1929, gyda chyhoeddi ei bumed nofel, Wolf Solent. Dilynwyd hi gan ddwy nofel arall, eang a threiddgar eu seicoleg: sef A Glastonbury Romance (1932), a Weymouth Sands (1934). Yn yr un flwyddyn cyhoeddodd hunangofiant dadlennol iawn. Er mai yn America y cyfansoddwyd hwy, mae’r gweithiau hyn yn llawn disgrifiadau synhwyrus o dirluniau bro ei febyd yn Wessex. Fel Powys ei hun, cymeriadau mewnsyllgar yw arwyr ei nofelau. Ceisiant ddod i delerau â’r byd trwy ddatblygu mytholeg bersonol.

Yn 1935, aeth Powys a Playter i fyw i Gorwen, Meirionnydd, ac wedi hynny, yn 1955, i hen fwthyn chwarelwr ym Mlaenau Ffestiniog. Dysgodd Powys ddarllen Cymraeg gan ehangu ei wybodaeth am hanes a mytholeg y wlad, a daeth yn gyfaill agos i Gymry amlwg megis Iorwerth Peate ac Elena Puw Morgan. Ffrwyth y cyfnod hwnnw yw dau o’i gampweithiau mwyaf, sef y rhamantau hanesyddol Owen Glendower (1940) a Porius (1951). Parhaodd Powys i ysgrifennu llyfrau ac i gadw dyddiadur tan ychydig cyn ei farwolaeth, yn 91 oed, yn 1963.

Darllen pellach

  • Krissdóttir, Morine, gol., Petrushka and the Dancer: the Diaries of John Cowper Powys, 1929-1939 (Gwasg Carcanet: Manceinion, 1995)
  • Krissdóttir, Morine, Descents of Memory: the life of John Cowper Powys (Overlook Duckworth: Llundain, 2007)