Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 694D

Hanes Ann Griffiths

Ganed Ann Thomas yn nechrau 1776 yn ferch i John a Jane Thomas o fferm Dolwar-fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, gogledd Powys. Mae'n debyg iddi gael rhywfaint o addysg a chael ei thrwytho yn nhraddodiad barddol yr ardal. Roedd y teulu yn ddefosiynol ac yn mynychu eglwys y plwyf yn gyson. Yn ogystal yr oeddent yn hoff o ddifyrrwch bywyd megis nosweithiau llawen, canu gyda'r delyn, a dawnsio.

Yn raddol daeth aelodau'r teulu o dan ddylanwad yr adfywiad efengylaidd, neu Fethodistaidd. Ganol y 1790au fe brofodd Ann hithau yr adfywiad ysbrydol hwnnw ac ymaelododd â'r gymdeithas neu'r seiat Fethodistaidd oedd yn cyfarfod ym Mhontrobert. Yn ystod y cyfnod hwnnw dechreuodd gyfansoddi penillion ac emynau ac arferai eu hadrodd wrth Ruth Hughes, morwyn ar fferm Dolwar-fach. Fe'u dysgwyd ar gof gan Ruth, ac yn ddiweddarach, fe'u casglwyd ynghyd a'u cyhoeddi gan ei gŵr, John Hughes, Pontrobert.

Wedi marwolaeth ei thad ddechrau 1804 priododd Ann, ond fe effeithiodd colli ei thad yn drwm ar ei hysbryd a'i hiechyd, ac ym mis Awst 1805 ar ôl esgor ar ferch fach a fu farw'n bythefnos oed bu farw hithau a'i chladdu ym mynwent Llanfihangel.

Prin y cofnododd Ann ddim o'i barddoniaeth, ac ni oroesoedd dim yn ei llaw ei hun heblaw am yr un llythyr hwn at ei chyfaill Elizabeth Evans. Mae'n cynnwys hefyd bennill o'i gwaith.


Darllen pellach

  • Siân Megan. Gwaith Ann Griffiths. Llandybìe : Christopher Davies, 1982
  • A. M. Allchin. Ann Griffiths : the furnace and the fountain. Cardiff : University of Wales Press, 1987