Symud i'r prif gynnwys

Dyddlyfrau Syr William Edmond Logan, 1843-4

Reference: NLW MS 21715-16B

Mae papurau Syr William Edmond Logan wedi'u gwasgaru rhwng nifer o sefydliadau ar draws y byd. Nawr, am y tro cyntaf, maent wedi eu haduno o ganlyniad i gydweithio rhwng Llyfrgell ac Archifau Canada a'i sefydliadau partner -- Archifau Prifysgol McGill, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Natural Resources Canada a Llyfrgell Gyhoeddus Toronto. Mae'r dudalen hon yn cyflwyno cyfraniad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

NLW MS 21715-16B

Sefydlodd Syr William Edmond Logan (1798-1875), a weithiodd yng Nghymru yn yr 1830au, y Geological Survey of Canada ac adwaenir ef fel gwyddonydd mawr cyntaf Canada. Mae dau ddyddlyfr yn naliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cofnodi ei sylwadau cymhellol ar deithiau ym Mhenrhyn Gaspé yn Québec, Canada.

Ei fywyd

Ganed William Edmond Logan ym Montréal i ymfudwr o'r Alban. Dychwelodd y teulu i'r Alban lle mynychodd Logan Ysgol Uwchradd Caeredin a Phrifysgol Caeredin. Treuliodd y 15 mlynedd nesaf yn gweithio i'w ewythr, Hart Logan, yn Llundain a de Cymru. Roedd Abertawe yn ganolfan diwydiannol pwysig ac yn fuan cymerodd Logan ddiddordeb mewn mapio'r meysydd glo lleol. Bwydodd sylw Logan at fanylion y brwdfrydedd poblogaidd cynyddol mewn daeareg. Cydnabyddwyd i'w waith osod safonau newydd o gywirdeb ac fe'i hymgorfforwyd i'r Arolwg Prydeinig. Bu hefyd yn gymorth yn ffurfio cymdeithas wyddonol leol, Sefydliad Brenhinol De Cymru. Ymroddodd Logan weddill ei yrfa i Ganada. Sefydlodd Arolwg Daearegol Canada yn 1842 ac fe'i hurddwyd gan y Frenhines Victoria yn 1856. Bu farw Logan yng Nghastell Maelgwn, Llechryd yn 1875 ac mae wedi'i ei gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yng ngorllewin Cymru.

Cynnwys y dyddlyfrau

Disgrifiai'r dyddlyfrau hyn ei deithiau a'i waith daearegol yng nghyffiniau Penrhyn Gaspé yn nhalaith Québec. Yn ogystal â'u gwerth daearegol, mae'r dyddlyfrau'n cynnwys sylwadau diddorol ar y bobl y mae'n cwrdd ar y teithiau hyn. Maent yn adlewyrchu'r dyn diwyd, astud a'u creodd a'r byd cyfoethog a manwl a drigai ynddo. Roedd llawer o'r cofnodion yn wreiddiol mewn pensil ac wedyn eu hailysgrifennu mewn inc, ac mae'r cyfrolau'n cynnwys nifer o frasluniau pen ac inc.

13 Gorffennaf 30 Medi, 1843 (Llsgr. NLW 21715B)

Mae'r gyfrol gyntaf, 13 Mehefin 30 Medi 1843, yn cofnodi taith mewn canŵ ar hyd ddwy lan y Baie de Gaspé ac mor bell â Cape Maquereau ar ochr ogleddol y Baie des Chaleurs. Cyd-deithwyr Logan oedd Mr Stevens ac Indiad, John Basque.

31 Mai 4 Tachwedd 1844 (Llsgr. NLW 21716B)

Mae'r ail gyfrol, 31 Mai 4 Tachwedd 1844, gyda dwsin o dudalennau gwag rhwng 12 a 28 Medi, yn disgrifio fforiadau pellach o Benrhyn Gaspé. Cychwynnodd Logan a'i gyd-deithwyr de Rottermond, Murray, Stevens a phump o Indiaid, mewn canod o Gaspé i fyny afon St Lawrence at Cape Chatte, yna i'r tir dros y bryniau Shick Shock at Fae Chaleur. Ymddengys i tua 6 Medi nes 7 Hydref, pan croesasant y morfa i Dalhousie ar yr ochr New Brunswick, gael ei dreulio ar ochr ogleddol y bae hwn, gan deithio mor bell i'r dwyrain â Paspebiac. Yna ymgymerwyd ag ail-groesiad o Benrhyn Gaspé ar hyd Afon Matapedia, ac yna dilynodd y cwmni glan dde Afon St Lawrence tuag at Québec.

Dolenni Perthnasol

Written in Stone: William E. Logan and the Geological Survey of Canada, Library and Archives Canada