Adnoddau allanol
- Gwefan Discover Dylan Thomas (Saesneg yn unig)
Cyfeirnod: NLW MS 23949E
Braslun dwy dudalen sgematig o Llareggub mewn inc brown, [1944x1951], a dynnwyd gan Dylan Thomas wrth iddo gyfansoddi Under Milk Wood, ei ddrama i leisiau.
Ddiwedd Ionawr 1954 y darlledwyd drama Dylan Thomas, Under Milk Wood: a play for voices, am y tro cyntaf ar y BBC gyda'r actor Richard Burton yn chwarae un o'r prif rannau. Yr oedd hynny bron i dri mis ar ôl marwolaeth annhymig yr awdur ddechrau Tachwedd 1953.
Bu Dylan wrthi'n gweithio ar y ddrama ers blynyddoedd. Mae'n debyg iddo daro ar y syniad yn y 1930au pan oedd yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin - bu ef a'i wraig, Caitlin, yn ymwelwyr cyson â'r pentref ac yn byw yno am gyfnodau rhwng 1936 a 1953 - ac yn gyffredinol fe dybir mai Talacharn fu'r ysbrydoliaeth fwyaf iddo wrth fynd ati i ysgrifennu Under Milk Wood. Mynna eraill ei fod wedi cael ysbrydoliaeth hefyd o'r cyfnod a dreuliodd yn y Cei Newydd, Ceredigion, rhwng 1944 ac 1945. Yno y dechreuodd ysgrifennu'r ddrama o ddifri. Gorffennodd y gwaith fis Medi 1953 a'i anfon at y BBC, ond o fewn deufis yr oedd yn farw mewn ysbyty yn Efrog Newydd.
Tynnodd Dylan y map o Llareggub, y pentref yn Under Milk Wood, fel cymorth iddo wrth ysgrifennu'r ddrama. Mae'n amlwg o'r enwau ar y map fod nifer o'r cymeriadau wedi ffurfio'n barod megis Mrs Ogmore-Pritchard, Organ Morgan, Polly Garter, No-Good Boyo, Lord Cut Glass a Mr Waldo. Mae'n amlwg fod daearyddiaeth y pentref yng nghysgod Llareggub Hill hefyd wedi ffurfio yn ei feddwl .
Yn Under Milk Wood mae Dylan Thomas yn ceisio rhoi inni ddarlun o bedair awr ar hugain mewn pentref glan-y-môr yng Nghymru. Ond nid yn yr hyn sy'n digwydd ar strydoedd ac yn nhai y pentref y mae unig ddiddordeb Thomas, y mae hefyd yn caniatáu inni weld i mewn i feddyliau ac eneidiau'r trigolion. Cafodd y ddrama lwyddiant ysgubol o'r cychwyn cyntaf. Enillodd y BBC wobr ryngwladol y Prix Italia am gynhyrchiad 1954 ac o fewn dim yr oedd wedi'i chyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac yn cael ei pherfformio ar draws y byd.
Prynwyd y map gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2004 fel rhan o gasgliad mwy o eitemau a phapurau yn perthyn i ac yn ymwneud â Dylan Thomas.