Cofiannau troseddwyr
Mae'r genre cofiannau troseddwyr yn gyffredin yn Lloegr, ond mae'n brin iawn yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif, a dweud y lleiaf. Cefais wybod gan Miss Eiluned Rees, gynt o'r Llyfrgell Genedlaethol, golygydd y llyfryddiaeth safonol o weithiau print Cymreig cyn 1820, Libri Walliae, nad oes ond rhyw hanner dwsin o fywgraffiadau byrion o droseddwyr Cymreig yn bod cyn y dyddiad hwn. Efallai mai'r gwaith sy'n fwyaf tebyg iddo yw Circumstantial account of the evidence produced on the trial of Lewis Lewis the younger, for the MURDER of Thomas Price, late of Pen-y-Graig in the parish of Llanafan-Fawr in the county of Brecon (1789). Bywgraffiad troseddwyr mwyaf adnabyddus y ddeunawfed ganrif yn Lloegr yw cofnod caplan carchar Newgate. Gweler P. Linebaugh, 'The Ordinary of Newgate and his Account', yn J. S. Cockburn, gol., Crime in England 1550-1800 (Llundain, 1979), 236-69.
Yr hyn sy'n ei gwneud yn fwy gwerthfawr fyth, efallai yn unigryw, yw'r ffaith ei bod yn cynnwys trawsysgrif o achos llys Owen ar y cyhuddiad o lofruddiaeth yn Sesiwn Fawr y Gwanwyn, Caerfyrddin a gynhaliwyd fis Ebrill 1747. Y trawsysgrifiad yw'r unig ffynhonnell wreiddiol ar gyfer achos llys Owen gan fod ffeiliau carchar Llys Sesiwn Fawr Caerfyrddin ar gyfer 1743-9 ar goll. Ni wn i am unrhyw drawsysgrif o achos troseddol Cymreig o'r ddeunawfed ganrif ac mae'r drawsysgrif hon yn dystiolaeth werthfawr i achosion troseddol yn Llys y Sesiwn Fawr. O ddarllen y trawsysgrifiad o achos Owen mae'n ymddangos fod trefn achosion troseddwyr yn Llys y Sesiwn Fawr yn debyg iawn i'r arfer ym Mrawdlysoedd Lloegr fel y'i disgrifiwyd gan J. H. Baker yn 'Criminal Courts and Procedure at Common Law 1550-1800' yn J. S. Cockburn, op. cit., 15-48. Un gwahaniaeth mawr oedd yr angen am ladmeryddion yng Nghymru.