Thomas Jeremiah (1797-1868)
Ganwyd Thomas Jeremiah ar yr 21ain o Fai, 1797 ar fferm ei dad ym mhlwyf Goetre, Sir Fynwy. Roedd yn un o 12 o blant o 'rieni tlawd a gonest' a ‘ddaliai fferm o tua 180 acer o dan y Sgweier Lee o Bont-y-pŵl yn Sir Fynwy'. Yn ôl 'Cenydd' sy'n ymchwilio i hanes y teulu ar wefan Ancestry, yr oedd yn fab i Richard Jeremiah (g.1749, o blwyf Mamheilad, Sir Fynwy) a'i wraig Mary Phillips (g.1744). Mae'n amlwg o'r llawysgrif iddo gael addysg dda. Disgrifia ei hun fel gŵr ifanc gwrthryfelgar ac ansefydlog, a fu’n gweithio ar nifer o ffermydd cyn ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar 27 Tachwedd 1812 yn 16 oed (mae copi o'i dystysgrif ymrestru yn NLW ex 803; cedwir y gwreiddiol yng Nghastell Caernarfon). Treuliodd y blynyddoedd nesaf mewn barics gwahanol, cyn mynd i'r cyfandir ar y 23ain o Fawrth 1815 a chymryd rhan yn ymgyrch Waterloo. Cedwir ei Fedal Waterloo yn yr Amgueddfa Gatrodol yng Nghastell Caernarfon, ynghyd â'i dystysgrif ryddhau, tysteb iddo a ysgrifennwyd gan y Capten J. Enoch, Dirprwy'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Waterloo. Yn ôl gwybodaeth Neil Carey ar wefan Ancestry ('Jeremiahs from Goetre monmouthshire in Wales UK'), cafodd ei glwyfo dair gwaith mewn brwydrau. Gwasanaethodd gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am 25 mlynedd a 210 diwrnod, ond nid yw'n ymddangos iddo godi uwch na rheng milwr, cyn cael ei ollwng o’r fyddin ar y 26ain o Fehefin 1837 - pan benderfynwyd ei fod yn feddygol 'anaddas ar gyfer gwasanaeth' - ar bensiwn yn Kilkenny, Iwerddon, gyda phensiwn ychwanegol am ddewrder. Yn ei dysteb disgrifia Capten Enoch ef fel 'milwr cadarn, sobr, o ymddygiad da'. Ar ôl gadael y Fyddin, fe'i penodwyd yn Uwch-arolygydd yr Heddlu ym Mrynmawr, Sir Frycheiniog yn Nhachwedd 1847. Ymosodwyd arno gan labystiaid lleol ym Mawrth 1856 a bu’n gloff am weddill ei oes (NLW ex 803 - llythyr gan Guradur Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig, Castell Caernarfon, 12 Mehefin 1970). Bu wedi hynny’n Arolygydd Pwysau a Mesurau Sir Frycheiniog, gan ddal y swydd hyd ei farw ym 1868.
Roedd yn briod ag Elizabeth (Richard o bosibl, g. c.1816) erbyn 1841. Eu cartref oedd Brynmawr, ym mhlwyf Llanelli, lle magwyd iddynt bump o blant: Alonso Edwin, ganwyd c.1844, Thomas William, ganwyd c. 1847 Elizabeth Jane, ganwyd c.1849, Laura Maria, ganwyd c.1853 ac Augusta Eugenia, ganwyd c.1855. Bu farw ei wraig Elizabeth rywbryd rhwng 1855 a 1861, o bosibl ym 1856. Ysgrifennwyd ei ewyllys (trawsgrifiad yn NLW ex 803) ar y 24ain o Fai 1867, profwyd (PCC) ar 13 Ebrill 1875, a nodir iddo farw ar y 10fed o Ebrill 1868. Enwir ei bum plentyn, ynghyd â'i eiddo sylweddol, a oedd yn cynnwys wyth o dai. Rhannwyd popeth rhwng ei blant, ond ymddengys bod ei fab Thomas William ar goll, am fod yr ewyllys yn nodi bod yr holl gymynroddion i Thomas William ‘os deuai adref’.