Mudo i Batagonia
Yn ystod y 19eg ganrif ymfudodd nifer fawr o Gymry yn y gobaith o gael bywyd gwell - doedd dim gwaith, ac roedd llawer yn byw mewn tlodi. Roedd atyniad bywyd newydd a dyfodol gwell yn gryf. Heidiodd llawer i ardaloedd diwydiannol America, lle cychwynnodd Michael D. Jones gymdeithasau i'w cynorthwyo i gadw'u hunaniaeth, ond roedd pwysau arnynt i ddysgu Saesneg ac i fabwysiadu'r diwylliant Americanaidd. Teimlai Michael D. Jones mai'r unig ffordd i ddiogelu'r iaith a'r diwylliant Cymreig oedd sefydlu gwladfa, a throdd ei olygon at Batagonia. Sylweddolodd y byddai unigedd Patagonia yn lleoliad delfrydol i feithrin gwladfa Gymreig a gâi ei hamddiffyn rhag dylanwadau anghymreig. Gweithiodd yn ddiwyd yng Nghymru i geisio recriwtio ymfudwyr posib ac anfonodd Lewis Jones a'r Capten Love Jones-Parry i Buenos Aires ym 1862 i drafod telerau gyda llywodraeth yr Ariannin. Llwyddwyd i sicrhau 25 cuadra (tua 100 erw) o dir i bob teulu. Ar 28 Mai 1865, hwyliodd 153 o Gymry ar y Mimosa, ond wrth lanio ar y tir diffaith ar 28 Gorffennaf 1865 heb ddŵr na chysgod a bron dim bwyd, sylweddolwyd yn gyflym nad oedd y wlad mor ddelfrydol ag yr awgrymwyd. Gwellodd y sefyllfa'n raddol wrth i’r gwladfawyr weithio’n ddiwyd i adeiladu sylfeini cymdeithas, adeiladu cartrefi syml, dysgu hela yn y dull brodorol, plannu cnydau a thorri camlesi i ddod â dŵr o’r Afon Camwy i ddyfrhau a ffrwythloni’r tir. Ymhen amser, adeiladwyd rheilffordd i gysylltu'r Gaiman, Dyffryn Camwy a Phorth Madryn.
Chwyddodd y boblogaeth Gymreig i tua 700 ac erbyn 1883 bu'n rhaid i'r Cymry droi eu golygon at yr Andes i chwilio am dir amaethyddol. Cafwyd hyd i diriogaeth Cwm Hyfryd ym 1885 a sefydlwyd gwladfa newydd yno ym 1891.
Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd tua 4,000 o bobl o dras Gymreig yn byw yn Chubut, gyda’r mewnfudiad sylweddol olaf o Gymru yn digwydd ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dirywiodd y Gymraeg rywfaint wrth i’r gwladfawyr gymhathu fwyfwy gyda’r bywyd Archentaidd, trwy briodasau cymysg neu wrth iddynt symud i chwilio am waith. Daeth Sbaeneg yn brif iaith y genhedlaeth iau. Serch hynny, cryfhaodd yr iaith a’r berthynas rhwng Cymru a’r Wladfa unwaith eto trwy sefydlu Cymdeithas Cymry-Ariannin yn 1939 ac yn dilyn y dathliadau canmlwyddiant ers y glanio cyntaf yn 1965.