Y Dyddiadur a’r Rhyfel
Roedd Thomas yn ffieiddio imperialaeth a jingoistiaeth, ond wedi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, teimlai ddyletswydd i amddiffyn ei famwlad, rhag y bygythiad a welai i’w chymunedau a’u ffordd o fyw. Ymunodd â’r fyddin o’i wirfodd ym 1915, a threuliodd gyfnod gyda’r Artists’ Rifles, cyn cael ei gomisiynu’n is-lefftenant gyda’r Royal Garrison Artillery ym mis Tachwedd 1916. Cychwynodd Thomas y dyddiadur hwn ym mis Ionawr 1917, pan oedd gyda’i gatrawd, yn Lydd, swydd Gaint. Erbyn diwedd y mis roeddynt wedi croesi i Ffrainc:
"Arrived Havre 4 a.m. Light of stars and windows of tall pale houses and electric arcs on quay. March through bales of cotton in sun to camp. The snow first emptying its castor of finest white. Tents."
Mae’r dyddiadur yn cynnwys disgrifiadau ffraeth a chynnil o’r bywyd milwrol ynghyd â delweddau grymus o’r modd yr oedd byd natur yn parhau ymysg y brwydro. Dengys hefyd i Thomas weld prydferthwch yn yr ymladd:
"Enemy plane like pale moth beautiful among shrapnel bursts."
Lladdwyd Thomas, o fewn tri mis i gyrraedd maes y gad, ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Arras, 9 Ebrill 1917. Yn y gorffennol credwyd iddo farw pan wibiodd siel Almaenig strae heibio iddo gan sugno’r anadl allan o’i ysgyfaint a stopio ei galon. Priodolwyd y crychau crymion sydd i’w gweld ar gloriau a thudalennau’r gyfrol i gynnwrf y siel. Fodd bynnag mae Jean Moorcroft Wilson, yn ei bywgraffiad Edward Thomas: From Adlestrop to Arras (2015), yn dod i’r casgliad y lladdwyd Thomas mewn gwirionedd trwy gael ei daro gan siel 77 mm., a bod yr amgylchiadau wedi eu cymysgu yn ddiweddarach gyda digwyddiad y diwrnod blaenorol, pan oedd siel arall wedi methu Thomas o drwch blewyn. Ysgrifennwyd cofnod olaf y dyddiadur ar y noson cyn ei farwolaeth. Yng nghefn y gyfrol (f. 29) ceir yr unig ddrafft sydd ar glawr o’i gerdd olaf, ‘The Sorrow of True Love’. Roedd yn arfer ganddo i edrych yn ôl trwy ei ddyddiaduron a’i lythyrau am ddeunydd ar gyfer cerddi newydd, a diau y buasai wedi gwneud hynny gyda’r gyfrol hon petai wedi byw.
Yn ystod dwy flynedd olaf ei oes llwyddodd Thomas i gyfansoddi corff pwysig o dros 140 o gerddi. Mae’r blodeuant hwyr hwnnw o greadigrwydd wedi ennill lle iddo ymhlith beirdd Saesneg mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Ac mae’n rhoi arwyddocâd ingol i’r tudalennau gweigion sydd i’w gweld yn y dyddiadur.