Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: NLW MS 13248i-iiB

Ei fywyd

Ganwyd Pughe, yn fab i ffermwr, ym mhlwyf Llanfihangel y Pennant, sir Feirionnydd ym 1759. Adwaenid ef fel William Owen cyn iddo fabwysiadu’r cyfenw Owen Pughe ym 1806. Yn ystod ei ieuenctid datblygodd ddiddordeb angerddol mewn llenyddiaeth Gymraeg a bu blodeugerdd enwog Rhys Jones, Gorchestion Beirdd Cymru (1773) yn ysbrydoliaeth fawr iddo.

Ym 1776 aeth Pughe i weithio i Lundain, fel clerc i gyfreithiwr. Bu yno am chwe mlynedd unig cyn dod i gysylltiad â Chymry eraill yn y ddinas a oedd yn rhannu ei ddiddordebau llenyddol. Ym 1783 ymunodd â Chymdeithas y Gwyneddigion a dod yn rhan o’r cynnwrf diwylliannol a gwleidyddol a nodweddai fywyd Cymry Llundain yn y cyfnod hwnnw. Aeth ati i astudio’r casgliad pwysig o lawysgrifau Cymraeg a gedwid gan Gymdeithas y Cymmrodorion yn yr Ysgol Elusennol Gymraeg, yn Gray’s Inn Lane. A chyda chefnogaeth ariannol y crwynwr a’r noddwr llên, Owain Myfyr, dechreuodd gyhoeddi’r testunau Cymraeg cynharaf. Bu’n gyd-olygydd, gydag Owain Myfyr, ar Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789), ac ym 1792 cyhoeddodd The Heroic Elegies and other Pieces of Llywarç Hen. Y flwyddyn ganlynol ymddangosodd rhan gyntaf ei waith mwyaf dylanwadol, sef y Geiriadur Cynmraeg a Saesoneg (1793-1803). Pughe hefyd oedd prif olygydd tair cyfrol The Myvyrian Archaiology of Wales (1801 a 1807), un o gerrig milltir pwysicaf ysgolheictod Cymraeg.  O ganlyniad i’w weithgarwch, daethpwyd i’w ystyried - yng Nghymru ac yn Lloegr - yn ben awdurdod ar yr iaith Gymraeg, ac ar hanes a llenyddiaeth Cymru. A bu’n gohebu â chylch eang o lenorion a hynafiaethwyr amlwg yn Lloegr.

Ond er ei ddiwydrwydd a’i frwdfrydedd, cymeriad hygoelus a rhamantydd eithafol oedd Pughe. Manteisiodd y ffugiwr llenyddol Iolo Morganwg ar ei ddiffyg cydbwysedd barn, trwy ei berswadio i gyhoeddi nifer helaeth o ffugiadau o’i eiddo ef. Coleddai Pughe hefyd syniadau cwbl gyfeiliornus ynghylch datblygiad y Gymraeg a tharddiad ei geiriau. O ganlyniad, cafodd ei eiriadur ddylanwad andwyol ar y math o Gymraeg a ystyrid yn safonol yn ystod y 19eg ganrif.

Darllen pellach

  • Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983).