Symud i'r prif gynnwys

Mae miliynau o ddelweddau digidol ar gael ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae gan rai o'r gwefannau hyn adrannau addysg, tra bod eraill yn cynnwys delweddau a gwybodaeth fydd yn ddefnyddiol i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon a dysgwyr gydol oes.

Casgliadau

Gweld eitemau sydd ar y wefan hon wedi eu rhannu'n gategorïau gwahanol.

Papurau Newydd Cymru

Adnodd ar-lein di-dâl lle gallwch ddarganfod miliynau o erthyglau o bapurau newydd hanesyddol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cymru 1914

Cannoedd o filoedd o ffynonellau cynradd am y Rhyfel Byd Cyntaf o lyfrgelloedd, casgliadau arbennig ac archifdai Cymru.

Cartwnau Illingworth

Mae Casgliad Cartwnau Illingworth yn cyflwyno amrywiaeth eang o bynciau drwy lygaid un o gartwnwyr mwyaf adnabyddus Prydain yr 20fed ganrif. Mae themâu'r cartwnau yn cynnwys Yr Ail Ryfel Byd, Y Rhyfel Oer, Bywyd Pob Dydd ym Mhrydain, a Digwyddiadau Cymreig.

Ymgyrchu! Canrif o ymgyrchu gwleidyddol a chymdeithasol

Mae gwefan Ymgyrchu! yn cyflwyno detholiad o ddeunyddiau gwreiddiol gan gynnwys dogfennau, ffotograffau, a deunydd sain a fideo, ac yn gosod y rhain o fewn eu cyd-destun hanesyddol ehangach. Mae'r ymgyrchoedd i gyd o'r ugeinfed ganrif, a threfnir y safle'n themâu.

Tanysgrifiadau ac Adnoddau Eraill

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn tanysgrifio i nifer o adnoddau defnyddiol ar-lein. Gall athrawon a disgyblion dros 16 oed gael mynediad at y rhain drwy gofrestru'n rhad ac am ddim ar gyfer Tocyn Darllen.