Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
1936, 16mm, 16 munud, Lliw, Mud, Film amatur, A J Sylvester
Mae’n bosib y byddai maint ffenest ‘Ystafell Lyfrau’ Hitler yn ei gartref newydd ei ailwampio – y Berghof (gynt Haus Wachenfeld) – yn peri i’w ymwelwyr aros am ennyd i feddwl. Dyma ddyn oedd yn gweithredu, yn amlwg, ar raddfa fawr ac uchelgeisiol. Ond roedd Lloyd George yn llawn edmygedd o’r gwaith mawr a oedd yn digwydd o dan y gyfundrefn Sosialaidd Genedlaethol – traffyrdd, pencadlys y parti newydd, adennill tir – y cyfan yn lleihau (trwy rym) diweithdra, problem a rannwyd gan Brydain.
Fe ymwelodd Lloyd George â Hitler ar ben ei hun ar 4 Medi, gan ddychwelyd i dê gyda’i gymdeithion ar y 5ed. Roedd ei gymdeithion yn cynnwys ei fab Gwilym, ei ferch Megan, Dr Thomas Jones (is-Ysgrifennydd y cabinet), T P Conwell Evans (academydd, siaradwr Almaeneg ac Ysgrifennydd y Cymrodoriaeth Eingl-Almaenig), Bertrand Dawson / Arglwydd Dawson o Penn (Meddyg Brenhinol ac awdur adroddiad a gyhoeddwyd yn 1920 ar ddarpariaeth gwasanaethau meddygol cenedlaethol, adroddiad a ddylanwadodd ar drafodaethau hwyrach ar sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol) ac A J Sylvester, ei Brif Ysgrifennydd Personol a recordiodd y digwyddiadau ar ffilm.
Noder: Mae 'Visit of the Rt. Hon. D. Lloyd George, OM, MP to Germany, September 2nd-26th, 1936' i’w gweld ar y BFI Player hefyd