Symud i'r prif gynnwys

David Lloyd George’s Golden Wedding Anniversary

16mm, 1938, 14 munud, Lliw, Mud, Ffilm Amatur, A J Sylvester

Efallai fod David Lloyd George a Margaret wedi siarad Cymraeg, iaith y nefoedd, ond roedd gan Lloyd George fel gŵr, ffaeleddau sylfaenol. Ond dyma nhw, gyda’r teulu’n dathlu mewn gwesty moethus, er gwell neu er gwaeth, 50 mlynedd o briodas. Roedd gan westy Câp d-Antibes, yn ne Ffrainc, gwrs golf i’r dynion a bwyd da i ddilyn. Dangosir hefyd luniau o ‘larch gathering’ a gwenynfa newydd ar fferm ‘LG’, Bron-y-de yn Churt, Surrey. Yma gwelir Lloyd George gyda’i fab Gwilym (oedd yn AS Sir Benfro ar y pryd), gwraig Gwilym, Edna, a’u mab David, ynghyd â’r Uwchgapten Nathan, ffrind lleol, ac Ann Parry, gwenynwraig ac aelod o staff ysgrifenyddol Lloyd George.

Dyma un o nifer o riliau a ffilmiwyd gan Brif Ysgrifennydd Personol Lloyd George, A J Sylvester.

Noder: Mae 'David Lloyd George’s Golden Wedding Anniversary' i’w gweld ar y BFI Player hefyd