Symud i'r prif gynnwys

Official Opening of the New Civic Centre Bodlondeb Conway by the Right Hon. D. Lloyd George, OM, MP

16mm, 1937, 12 munud, Du a Gwyn, Mud, Ffilm Amatur, A J Sylvester

Cyflwynodd Lloyd George y ffilm hwn o’r digwyddiad i Gyngor Bwrdeistref Conwy, ynghyd â ffilm o ddigwyddiad dinasaidd arall yng Nghonwy – Dydd Sul y Maer ar 14.11.1937 – y ddau wedi eu ffilmio gan ei Ysgrifennydd Personol, A J Sylvester, a oedd yn creu cardiau teitl yn defnyddio dull diddorol. Prynwyd Bodlondeb, a’i 60 acer, trwy bryniant gorfodol gan y cyngor yn 1936, yn dilyn marwolaeth ei berchennog, Albert Wood, er mwyn darparu parcdir cyhoeddus a swyddfeydd dinasaidd. Roedd Mr Wood yn fasnachwr cadwyni ac angorion a oedd wedi dod i amlygrwydd yn yr ardal yn dilyn bod yn faer a chael ei anrhydeddu fel Dyn Rhydd cyntaf y Fwrdeistref. Roedd wedi dymchwel y tŷ gwreiddiol ar y safle a chodi un newydd yn yr 1870au.

Noder: Mae 'Official Opening of the New Civic Centre Bodlondeb Conway by the Right Hon. D. Lloyd George, OM, MP' i’w gweld ar y BFI Player hefyd