Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
16mm, 1936, 13 munud, Lliw, Mud, Ffilm Amatur, A J Sylvester
Mae’n rhaid mai’r lluniau agoriadol yn dangos Lloyd George yn ei berllan ar ei fferm Bron-y-de yn Churt, Surrey, yw rhai o’r lluniau harddaf sydd ar gael o’r gwleidydd oedrannus, gyda’i wallt gwyn a’i siwt lwyd yn gweddu’n hyfryd â’r blodau. Fe’i ffilmir gan ei Ysgrifennydd Personol A J Sylvester, sy’n mynd gydag ef i ddathliadau canmlwyddiant Daniel Owen, o’r Wyddgrug’, a gyfrifir fel y nofelydd Cymraeg cyntaf. Maent hefyd yn ymweld â Chastell Caernarfon lle gwelir Lloyd George yn trafod paratoadau gyda, o bosib, Henry Morris-Jones (Trysorydd Anrhydeddus ac Ysgrifennydd Anrhydeddus y Pwyllgor Derbyniad oedd yn trefnu ymweliad y Brenin newydd), un yr oedd Lloyd George yn anghytuno gydag ef am y dewis o gerddoriaeth.
Noder: Mae 'Lloyd George: farming, officiating and breakfasting' i’w gweld ar y BFI Player