Symud i'r prif gynnwys

1934 Spirits from the Vasty Deep

(Detholiad)

16mm, 1934, 14 munud, Du a Gwyn, Mud, Ffilm Amatur, teulu Goronwy Moelwyn Hughes

Lluniau hyfryd o Lloyd George, ei wraig Margaret a’u merch Megan, wrth iddynt gymryd rhan mewn cyfres o gynadleddau ym Mrynawelon (Cricieth) a Bron-y-de (Churst, Surrey) yn ystod Medi a Hydref 1934, i drafod gwleidyddiaeth y Blaid Rhyddfrydol a Bargain Newydd Lloyd George (rhaglen o ddiwygiadau economaidd newydd y cyhoeddodd, heb lawer o lwyddiant, yn Ionawr 1935). Ffilmiwyd y lluniau gan Goronwy (Ronw) Moelwyn Hughes, a ystyriwyd yn wreiddiol fel ymgeisydd seneddol posib i’r Rhyddfrydwyr, ond a fu’n AS Llafur dros Gaerfyrddin rhwng 1941-45 a Gogledd Islington rhwng 1950-51. Mi briododd Louise (Lulu) Greer, merch y Barnwr Frederick Arthur Greer (yr hynaf o 14 o blant Manxman).

Noder: Mae '1934 Spirits from the Vasty Deep' i’w gweld ar y BFI Player