Symud i'r prif gynnwys

Lloyd George with Dogs and Book

c.1929, 35mm, 3 munud, Du a Gwyn, Mud, Rîl Newyddion, British Screen News

Mae David Lloyd George yn cerdded trwy ardd (fwy na thebyg yn Bron-y-de ei gartref/fferm yn Churt, Surrey) yng nghwmni sawl ci, ac yn eistedd yn hamddenol mewn cadair i ddarllen llyfr. Mae amser hamdden y Gwladweinydd yn cael ei recordio ar gyfer eitem rîl newyddion, ac mae’n hollol gyfforddus yn sgwrsio â’r dyn camera. Yn c.1929, y dyddiad a roddwyd i’r ffilm, mi fyddai Lloyd George wedi bod yn arweinydd y Blaid Rhyddfrydol (1926-31) ac, fel y bu ers 1890 ac y byddai tan ei farwolaeth yn 1945, yn AS Bwrdeistrefi Caernarfon, ond roedd ei lanw ar droi.

Noder: Mae 'Lloyd George with Dogs and Book' i’w gweld ar y BFI Player hefyd