Symud i'r prif gynnwys

Machynlleth. Hen Dref Owain Glyndwr

(Detholiad)

16mm, 1937, 50 munud, Du a Gwyn a Lliw, Mud, Ffilm pwnc lleol, Arthur Price

Cafwyd sawl ‘cyntaf’ yn yr Eisteddfod hon: gwisgodd stiwardiaid benywaidd y wisg Gymreig a phenderfynwyd y dylai’r Gymraeg fod yn iaith swyddogol yn dilyn ymddiswyddiadau gan feirniaid mewn protest am y cynnydd yn y defnydd o’r Saesneg a chysylltiad Marcwis Londonderry (perchennog Plas Machynlleth) a sefydlodd Ysgol Fomio a Thanio RAF Penrhos. Unwaith fod yr Eisteddfod drosodd, rhyddhawyd o’r carchar, y protestwyr Saunders Lewis, Lewis Valentine a D J Williams, a oedd yn gyfrifol am losgi’r ysgol fomio. Bu D J Williams yn beirniadu o’i gell. Croesawyd Lloyd George i’r Plas a’r arddangosfa gan Gadeirydd y Pwyllgor Celf a Chrefft, E Haddon Roberts. Gwelir Roberts gydag aelodau eraill o’r pwyllgor yn agoriad yr arddangosfa: Howell J Williams (contractwr adeiladu a gyflwynodd dir yn Llundain i symudiad Cymru Fydd/Young Wales), Clement Davies (AS Rhyddfrydol), Ernest Benet (AS Llafur), Percy Thomas (Pensaer, Llywydd – ARIBA), D J Ashton (Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith) a’r chwiorydd Davies – Gwendoline a Margaret o Landinam (casglwyr celf).

Noder: Mae 'Machynlleth. Hen Dref Owain Glyndwr' i’w gweld ar y BFI Player hefyd