Symud i'r prif gynnwys

The Historic Ceremony of the Enthronement of the First Archbishop of Wales at St Asaph’s Cathedral June 1st, 1920

35mm, 8.01 munud, Du a Gwyn, Mud, Digwyddiad ar y pryd

Cofnod wedi ei rhyng-deitlo o orseddiad Alfred George Edwards, Esgob Llanelwy, fel Archesgob yr Eglwys yng Nghymru newydd ei datgysylltu (sicrhawyd y datgysylltiad yn 1914, ond o ganlyniad i’r rhyfel ni chafodd ei weithredu tan 1920). Mae’r lluniau’n dangos yr eglwys gadeiriol o Bont Elwy; ffasâd blaen yr eglwys gadeiriol a Phalas yr Archesgob, gyda phobl yn cerdded o gwmpas; Y Prif Weinidog David Lloyd George yn ei het uchel yn sefyll o dan coeden yng nghwmni Arglwydd Raglaw ifanc Sir Fflint (Henry Neville Gladstone, mab William Ewart Gladstone); Duges Dundonald o Gastell Gwrych, Abergele (Winifred Cochrane, gynt Bamford-Hesketh), yn ngerddi’r palas yng nghwmni merched; gorymdaith o glerigwyr trwy erddi’r palas (mae taflen trefn gwasanaeth yn hedfan i ffwrdd ond yn cael ei ddal eto); yr orymdaith allan o’r eglwys gadeiriol wedi’r orseddiad, yn dangos yr Archesgob newydd gyda meitr a mantell, Lloyd George a Thywysog Arthur o Connaught (Arthur Frederick Patrick Albert Saxe-Coburg Gotha, nai y Frenhines Victoria), ac aelodau eraill o’r gynulleidfa; yr Archesgob yn sefyll rhwng Archesgobion Caergaint (Randall Thomas Davidson) ac Efrog (Cosmo Gordon Lang, a ddaeth yn Archesgob Caergaint yn hwyrach), yn cyfarch y dorf o lwyfan wedi ei osod o flaen y palas. Mae’r llun olaf yn dangos Band Y Gwarchodlu Cymreig yn chwarae, gwarchodlu newydd a sefydlwyd yn 1915.

Noder: Nid yw’r ffilm hon ar gael ar y BFI Player, ond gellir gweld ffilm o’r digwyddiad gan y Shannon Film Company, ond nid yw’n cynnwys delweddau o Lloyd George