Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
(Detholiad)
1916, 35mm,47 munud, Du & Gwyn, Mud, Propoganda, Cecil M Hepworth
Mae’r holl gyfweledigion yn cefnogi’r rhyfel – gan mai propaganda ydyw – ond o ganlyniad i’w swydd a’i gefndir mae ymdriniaeth bob un o’r sefyllfa yn amrywio. Mi ffilmiodd Cecil M Hepworth, arloeswr ffilm, y 26 unigolyn (yn cynnwys gweinidogion llywodraethol, ficer, bardd, dau actor a dyfeisiwr y dryll-peiriannol) yn un o swyddfeydd y llywodraeth a oedd wedi ei pharatoi gan ddefnyddio gwahanol gefndiroedd. Fe holir Asquith, rhagflaenydd Lloyd George fel Prif Weinidog hefyd, felly mae’n bosib fod Hepworth wedi sicrhau 2 bennaeth gan fod Lloyd George wedi dilyn Asquith yn Rhagfyr 1916. Nid yw’r un ohonynt yn ymddangos ar Rîl 3 o’r cyfweliadau (yr unig rîl sy’n rhoi manylion swydd neu rôl llywodraethol y cyfweledig), ac mi ddigwyddodd y ffilmio yn ystod Medi 1916. Mi allai Lloyd George fod yn Ysgrifennydd Gwladol Dros y Rhyfel neu’n Brif Weinidog, er mae’r ffaith ei bod hi’n ymddangos ei fod yn ei swyddfa ei hun yn awgrymu ei fod wedi ennill y brif swydd.
Noder: Mae 'Hepworth Cinema Interviews – I, II and III' i’w gweld ar y BFI Player hefyd