Symud i'r prif gynnwys

Nefyn – disgyblion, cymeriadau a Lloyd George

8mm, c.1940, 5 munud, Du a Gwyn a Lliw, Mud, Ffilm cartref, R J Jones

Fel AS ar gyfer Bwrdeistref Caernarfon rhwng 1890 a 1945, roedd Lloyd George yn ymwelydd cyson â Penrhyn Llŷn, yn arbennig Nefyn a Phwllheli. Yma, c.1940, fe’i gwelir yn ymweld â sioe leol Nefyn, o bosib gyda’r bwriad a godi morâl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Er mai Robert J Jones oedd enw swyddogol y fferyllydd o Nefyn, fe’i hadnabu fel Robin. Pasiwyd ei beiriannau ffilmio ymlaen i’w nai, John Glyn Jones, chwaraewr Fiola a doctor teuluol Brynsiencyn. Mi barhaodd ef â’r traddodiad o ffilmio digwyddiadau lleol a theuluol.

Noder: Mae 'Nefyn – disgyblion, cymeriadau a Lloyd George' i’w gweld ar y BFI Player