Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
1945, 16mm, 3 munud, Du a Gwyn, Mud, Ffilm amatur, E C Roberts
Ffilmiwyd y lluniau hyn o angladd David Lloyd George ar 30 Mawrth 1945 gan Evan Caradog Roberts, cyfrifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae cert fferm wedi ei dynnu gan geffyl, fel y dymunodd Lloyd George, yn ei gario i’w fan gorffwys ger Afon Dwyfor yn Llanystumdwy, y pentref lle y magwyd ef. Fe ddychwelodd yno yn 1942, wedi prynu ‘Tŷ Newydd’, ddim yn bell o ‘Brynawelon’, Cricieth, ei gartref cyntaf gyda’i gyn-wraig, Margaret (m. 1941). Ail wraig Lloyd George, Frances Stevenson (a welir mewn fêl ddu yn yr angladd) fu’n goruchwylio gwaith adnewyddu, ail-fodeli a moderneiddio Tŷ Newydd, gyda Clough Williams-Ellis fel pensaer.
Noder: Mae 'Angladd David Lloyd George yn Llanystumdwy' i’w gweld ar y BFI Player hefyd