Symud i'r prif gynnwys

Lloyd George at Home: Xmas 1938 & January 1939

1938, 16mm, 9 munud, Lliw, Mud, Ffilm gartref, A J Sylvester

Nadolig yng nghartref Lloyd George/fferm Bron-y-de yn Churt, Surrey. Wedi’r dathliadau, mae’r flwyddyn newydd yn dod ag eira (rhaid bwydo gwair i’r gwartheg a’r defaid) a chŵn bach Chow Chow, brîd y mae Lloyd George yn hoff iawn ohono (ond nid cathod Siamese). Yn ystod cyfweliad gydag Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn 1997, roedd Yr Aglwyddes Valerie Davidia Daniel, merch mab hynaf Lloyd George, Richard, yn cofio aros yn Stryd Downing am gyfnodau estynedig. Roedd meithrinfa ar y llawr uchaf. Byddai Lloyd George yn caniatáu iddynt chwarae yn Ystafell y Cabinet, lle, y cofiai, y bydden nhw’n neidio ar hyd y celfi, ac unwaith mi hongianodd Lloyd George fananas o goeden yn yr ardd fel bod y plant yn meddwl bod ffrwythau egsotig yn tyfu yno.

Noder: Mae cyflwr gwael y lluniau o’r Nadolig o ganlyniad i ddefnyddio golau o daflunydd, sydd wedi golygu mai dim ond sgwâr bychan o fewn y ffrâm sydd wedi ei ddatguddio.

Noder: Mae 'Lloyd George at Home: Xmas 1938 & January 1939' i’w gweld ar y BFI Player hefyd