Symud i'r prif gynnwys

Aberystwyth and Bangor - "Rag", Lloyd George and the Prince of Wales

(Extract)

35mm, 1922 a 1923, 12 munud, Du & Gwyn, Mud, Ffilm pwnc lleol (Arthur Cheetham) and Rîl Newyddion (Topical Film Company)

Mae’r Prif Weinidog sydd wedi eu gweld trwy’r rhyfel, yn ymweld ag Aberystwyth – y dre a’r gŵn – gyda’i wraig Margaret. Cyn dathliadau Jiwbilî coleg y brifysgol, mi dderbyniodd Rhyddid y Fwrdeistref ar 19.7.1922 yn Neuadd newydd y coleg ar Ffordd y Gogledd, ac roedd yn bresennol yn seremoni dadorchuddio cofeb Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf y coleg, gan Mrs Davies o Blas Dinam, Llandinam (ail wraig Edwards Davies, unig fab David Davies ‘Top Sawyer’). Fel yr adroddwyd yn y Cambrian News ar 21.7.1922, aeth Lloyd George ymlaen i roi araith yn y Neuadd newydd ar hanes a gwerthoedd arloeswyr addysg Gymraeg, gyda sylw arbennig i T C Edwards. Mae’n debyg fod y rhyng-deitlau’n cyfeirio at araith a wnaeth wrth dderbyn y Rhyddid, araith a oedd yn ceisio ysbrydoli’r dyrfa gyda gobaith a phenderfyniad yn ystod y blynyddoedd cynnar ansicr o heddwch. O fewn rhai misoedd i’r ymweliad, roedd Lloyd George wedi colli’r arweinyddiaeth.

Noder: Nid yw’r ffilm cyfan ar gael ar y BFI Player, ond gellir gweld rhan ohono, sy’n dangos y lluniau Arthur Cheetham ‘Rag’ yn unig, dan y teitl ‘College ‘Rag’’ – Friday, March 2nd, 1923 – Aberystwyth’