Symud i'r prif gynnwys

Rotatiller and Caterlippar Tractor, Oct. and Now. 1938

1938, 16mm, 5 munud, Lliw, Mud, Ffilm cartref, A J Sylvester

Roedd gwneud y defnydd gorau o dir a chynyddu ei gynhyrchiant yn faterion oedd yn agos iawn at galon Lloyd George. Roedd ganddo edmygedd a diddordeb mawr yng nghynlluniau adennill tir Hitler (a oedd yn delio â mater mawr arall – diweithdra) ac mi ymwelodd â sawl cynllun o’r math ar ei ymweliad â’r Almaen yn 1936. Roedd ffermio diwydiannol ar y gorwel ac roedd y ddau beiriant ar ei fferm – Bron-y-de yn ragflaenwyr. Dangosir Lloyd George yn cael ei ffilmio fwy na thebyg gan gwmni rîl newyddion. Mae’n sefyll wrth fynedfa Bron-y-de, yn traethu am y materion hyn o bosib.

Noder: Mae 'Rotatiller and Caterlippar Tractor, Oct. and Now. 1938' i’w gweld ar y BFI Player