Symud i'r prif gynnwys

The Life Story of David Lloyd George

(Detholiad)

35mm, 152 munud, Du a Gwyn, Mud, Ffilm hunangofiannol, Maurice Elvey

Detholiad yn dangos rhannau olaf y ffilm hunangofiannol (biopic) hon. Mae’r ffilm yn dipyn o ddirgelwch, pam nad ddangoswyd hi yn 1918, er waethaf yr holl ddisgwyl ym mhapurau’r sinemâu ac ymhlith y torfeydd o bobl ar draws Prydain fuodd yn cymryd rhan? Mae amryw o resymau posib pam y diflannodd y ffilm, ond mae’n sicr fod Lloyd George wedi cadw riliau’r negyddion. Fe’u canfyddwyd ymysg ei ffilmiau teuluol yn 1994 – canfyddiad unwaith mewn bywyd i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru – ac mi gafodd y ffilm ei noson agoriadol hir ddisgwyliedig yn 1996. Mae’n gyfuniad o straeon hynod, diddanol, sy’n cyffwrdd, ac effeithiau arbennig sy’n cyfrannu at y darlun llawn o ‘The Man who Saved the Empire’ (sef enw gwreiddiol y ffilm)

Noder: Mae’r ffilm hon ar gael ar DVD