Symud i'r prif gynnwys

Pecyn Gwaith i Athrawon

Cefndir

Yr Eisteddfod yw’r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop, ac fe’i cynhelir mewn rhan wahanol o Gymru yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn. Mae gan yr Eisteddfod hanes hir a difyr. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf dan nawdd yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi dros gyfnod y Nadolig yn 1176, ac mae’r Eisteddfod ar ei ffurf fodern yn bodoli ers 1861. Mae’n ddathliad o’n diwylliant a’n hiaith ac yn cynnwys pob ffurf ar gelfyddyd, o gerddoriaeth a llenyddiaeth i’r celfyddydau gweledol a gwyddoniaeth a thechnoleg – rhywbeth i bawb. 

Cynhelir prosiect cymunedol o hyd at ddwy flynedd mewn ardal i godi ymwybyddiaeth, gan ddod â chymunedau ynghyd i drefnu pob math o weithgareddau a digwyddiadau. Gelwir effaith yr Eisteddfod ar yr ardal leol yn waddol, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud i ddatblygu’r gwaddol hwn mewn nifer o feysydd. Rydyn ni wedi defnyddio’r meysydd gwaddol yma fel themâu ar gyfer ein pecyn addysg, gan eu bod yn cwmpasu gwahanol elfennau o’r ŵyl a’r prosiect dros y blynyddoedd. 

Yn y pecyn hwn, cewch gyfle i edrych yn ôl ar beth o hanes yr Eisteddfod, ynghyd â dysgu am yr Eisteddfod heddiw, gyda thasgau a gweithgareddau difyr yn pontio rhwng elfennau’r cwricwlwm, er mwy rhoi blas go iawn o’r Eisteddfod i bawb yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn camu’n ôl i fyd hanes drwy gyfrwng pob math o straeon difyr am yr Eisteddfod, o hanes Pafiliwn Eisteddfod Aberdâr 1861 yn chwythu i ffwrdd i hanes y Swffragetiaid yn tarfu ar araith y Prif Weinidog yn y Pafiliwn yn Eisteddfod Wrecsam 1912. 

Byddwch yn dysgu sut mae’r Eisteddfod wedi esblygu a datblygu dros y blynyddoedd, ac am sut mae’r Maes yn troi o fod yn gae cwbl wag i fod yn Faes gyda thros 175,000 o ymwelwyr a 1,000 o weithgareddau gwahanol yn ystod yr wythnos, gyda’r cyfan yn gwau i mewn i raglen dysgu arferol. Dyma gyfle i gael blas ar hanes cymdeithasol Cymru mewn ffordd cwbl newydd - wyddoch chi pa siopau oedd ar eich stryd fawr yn ystod y 1920au a sut mae hynny’n cymharu gyda threfi Cymru heddiw? Oeddech chi’n gwybod fod cystadlaethau’r Eisteddfod yn lens ar hanes Cymru yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr, ac yn adlewyrchu newidiadau cymdeithasol ar draws y wlad yn ystod dau draean cyntaf yr ugeinfed ganrif? Cewch ddysgu am hyn oll a llawer mwy ym mhecyn addysg yr Eisteddfod Genedlaethol.

Casgliad y Werin Cymru

Cwestiynau posib i'w trafod

• tbc

• tbc

 

Gweithgareddau a phrofiadau

  • tbc
  • tbc

     

Cysyniadau allweddol

(sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig)

Y Dyniaethau
  • Ymchwilio
  • Dehongli
  • Newid a pharhad
  • Lleoedd
  • Effaith Dynol ar y Byd
  • Hunaniaeth ac Amrywiaeth
  • Achos ac Effaith
  • Cyfiawnder, anghydraddoldeb a hawliau
  • Gweithredu Cymdeithasol
  • Cwestiynau moesegol a moesol
Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Deall cyd-destun mewn gweithiau creadigol
  • Cyfleu syniadau
  • Archwilio pwrpas ac ystyr
  • Datblygu a mireinio dyluniadau
Iechyd a Llesiant
  • Cyfathrebu, Ceisio Cymorth ac Empathi
  • Dewisiadau Gwybodus
  • Dylanwadau a Normau Cymdeithasol
  • Hunaniaeth a Gwerthoedd
  • Hawliau a Pharch
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Strategaethau Darllen
  • Dod i gasgliad
  • Ymateb i destunau
  • Sut mae Gramadeg yn Effeithio ar Ystyr
  • Datblygu Geirfa
  • Cyfathrebu'n effeithiol a chyfleu syniadau a barn (Ar Lafar)
  • Cydweithredu a thrafod
  • Ysgrifennu at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd

Yr Eisteddfod a'r Arglwydd Rhys

 

Roedd Rhys ap Gruffudd, sy’n cael ei adnabod fel Yr Arglwydd Rhys, yn un o dywysogion pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif. Ef oedd arweinydd Deheubarth yn ne-orllewin Cymru, ac ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, roedd yn cael ei weld fel y prif rym gwleidyddol yng Nghymru. Er iddo gael plentyndod anodd, gyda cholledion mawr i’w deulu, datblygodd yn arweinydd cryf a phenderfynol. 

Yn ystod ei oes, llwyddodd Rhys i adennill ei diroedd drwy frwydro a thrwy greu cynghreiriau â thywysogion Cymreig eraill. Roedd ei berthynas â brenhinoedd Lloegr yn gymhleth, ond cafodd ei gydnabod yn 1171 fel rheolwr cyfreithlon Deheubarth. Roedd hefyd yn gefnogwr mawr i ddiwylliant a’r eglwys yng Nghymru. Mae’n cael ei gydnabod fel noddwr yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi adeg y Nadolig yn 1176. Bu farw yn 1197, ac mae’n cael ei gofio heddiw fel arweinydd galluog a dylanwadol yn hanes Cymru.

 

Eisteddfod 1176

Yn 1176, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd gynulliad hanesyddol yn ei gastell newydd yn Aberteifi lle cystadlodd beirdd, cerddorion a pherfformwyr am anrhydedd y gadair farddol. Sefydlodd yr achlysur hwn draddodiad sy’n parhau hyd heddiw yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gwyl deithiol ddiwylliannol fwyaf Ewrop sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau a threftadaeth. 

Roedd y digwyddiad yn dangos bod yr Arglwydd Rhys yn gefnogwr brwd i ddiwylliant Cymreig. Drwy drefnu’r wyl, fe gryfhaodd ei safle fel prif dywysog Cymru a helpodd i gadw barddoniaeth, cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg yn ganolog i fywyd cenedlaethol Cymru. Mae pob eisteddfod ers hynny’n olrhain ei gwreiddiau’n ôl i’r ŵyl bwysig hon yn Aberteifi.

 

Castell Aberteifi

Adeiladwyd y castell cyntaf yn Aberteifi tua 1093 gan y Normaniaid, a newidiodd berchnogaeth sawl gwaith dros y canrifoedd. Yn 1166 cipiodd Yr Arglwydd Rhys y castell, ac yn 1171 dechreuodd ei ailadeiladu mewn carreg fel symbol o’i rym. Ar ôl ei farwolaeth yn 1197 bu llawer o frwydro dros y castell rhwng tywysogion Cymreig a’r Normaniaid, ac fe’i ail-adeiladwyd sawl gwaith. Mae’r gweddillion a welir heddiw, sy’n edrych dros yr Afon Teifi, yn dyddio o’r 1200au. 

Yn nes ymlaen, cafodd y castell ei ddifrodi yn Rhyfel Cartref Lloegr ac fe’i defnyddiwyd fel carchar. Yn y 1800au adeiladwyd Ty Castle Green o fewn muriau’r castell. Erbyn yr 1900au roedd yr adeiladau mewn cyflwr gwael, ond yn 2003 prynwyd y safle gan Gyngor Sir Ceredigion a dechreuwyd ar waith adfer mawr. Ail-agorwyd Castell Aberteifi i’r cyhoedd yn 2015. Heddiw, mae’n gartref i lety, bwyty, canolfan dreftadaeth, gerddi hanesyddol a lleoliad ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.

 

Dathliadau'r 850

Yn 2026 mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dathlu ei 850 mlwyddiant. Fel rhan o'r dathliadau mae'r Eisteddfod yn cynnal prosiect o'r enw Carreg Filltir Las: Taith yr Arglwydd Rhys. Bydd pyped enfawr o'r Arglwydd Rhys a'i gi Teifi yn teithio o amgylch ardal yr Eisteddfod yn Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin, gan ymweld â threfi a phentrefi sy'n gartrefi i rai o feirdd enwocaf Cymru. 

Bydd y prosiect yn gorffen gyda digwyddiad mawr yng Nghastell Aberteifi. Ar ôl gorymdaith fawr drwy'r dref, bydd beirdd amlwg heddiw a Chadair yr Eisteddfod yn cyrraedd y castell mewn flotilla ar yr afon, a'r Goron yn cyrraedd ar gefn ceffyl, cyn i bawb gael eu harwain i'r castell ar gyfer digwyddiad mawr i ddathlu 850 mlwyddiant yr Eisteddfod. Bydd llawer o weithgareddau i ddathlu hefyd yn cael eu cynnal ar Faes yr Eisteddfod yn Llantwd o 1-8 Awst.

Diwylliant ac Iaith

 

Mae’r Eisteddfod yn cael effaith fawr ar ddiwylliant Cymru drwy hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob math o gelfyddydau. Trwy ganu, cerddoriaeth, barddoniaeth, drama a dawns, mae’n rhoi llwyfan i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn greadigol ac yn hyderus. Mae hyn yn helpu i gadw’r iaith yn fyw ac yn berthnasol yn y byd modern. Mae’r Eisteddfod hefyd yn cefnogi diwylliant modern Cymru. Yn ogystal â thraddodiadau hen, mae lle i fandiau cyfoes, artistiaid newydd, llenyddiaeth fodern a chelf gyfoes. Mae hyn yn dangos bod diwylliant Cymru yn parhau i ddatblygu ac nad yw wedi aros yn y gorffennol. 

Mae’r effaith yn arbennig o gryf ar bobl ifanc. Trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau neu ymweld â’r Maes, mae llawer yn magu hyder, yn dysgu sgiliau newydd ac yn datblygu balchder yn eu hunaniaeth Gymreig. I rai, mae’r Eisteddfod yn gam cyntaf tuag at yrfaoedd mewn cerddoriaeth, y cyfryngau neu’r celfyddydau. 

Yn ehangach, mae’r Eisteddfod yn dod â chymunedau yng Nghymru at ei gilydd ac yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn. Mae’n dathlu amrywiaeth diwylliannol Cymru ac yn dangos bod diwylliant Cymreig yn fyw, yn gryf ac yn berthnasol i bawb heddiw. 

 

Diwylliant a’r Eisteddfod 

Mae’r Eisteddfod yn ŵyl bwysig sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae pobl o bob oed yn dod at ei gilydd i gymryd rhan ac i fwynhau’r hyn sydd gan y Gymraeg i’w gynnig mewn ffordd hwylus a chyffrous. Mae’r cystadlu yn rhan ganolog o’r Eisteddfod. Mae cystadlaethau mewn canu, cerddoriaeth, barddoniaeth, llefaru, dawns a drama. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i bobl ddangos eu doniau, magu hyder a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd greadigol. 

Mae’r Maes yn lle prysur a lliwgar lle mae llawer i’w weld a’i wneud. Mae perfformiadau byw, stondinau, gweithgareddau i’r teulu a chyfleoedd i gwrdd â phobl newydd. Mae’r Maes yn dangos bod y Gymraeg yn iaith fyw sy’n rhan o fywyd modern. Mae’r Eisteddfod yn bwysig iawn i’n hiaith a’n diwylliant heddiw. Mae’n annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a bod yn falch ohoni. Trwy ddod â phobl ynghyd, mae’r Eisteddfod yn helpu i gadw’r Gymraeg yn gryf ar gyfer y dyfodol. 

Mae gan yr Eisteddfod hanes hir sy’n dyddio’n ôl i 1176, pan gynhaliodd Arglwydd Rhys Eisteddfod yng Nghastell Aberteifi. Yno, daeth beirdd a cherddorion at ei gilydd i gystadlu a derbyn gwobrau am eu talentau. O’r cychwyn, roedd yr Eisteddfod yn ffordd o ddathlu a chadw diwylliant Cymru yn fyw. Dechreuodd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern fel gŵyl flynyddol yn 1861, ac ers hynny mae wedi teithio o amgylch Cymru bob blwyddyn. Mae’r Eisteddfod heddiw yn cyfuno traddodiadau hen gyda diwylliant modern, gan adlewyrchu datblygiad Cymru a’r Gymraeg dros amser. 

Mae seremonïau pwysig wrth galon yr Eisteddfod, megis y Cadeirio a’r Coroni, sy’n anrhydeddu barddoniaeth o’r safon uchaf. Yn ogystal â’r rhain, mae amrywiaeth eang o gystadlaethau eraill, gan gynnwys canu, cerddoriaeth, dawns a drama. Mae’r Rhuban Glas, er enghraifft, yn gystadleuaeth ganu bwysig iawn i leisiau ifanc. Dros y blynyddoedd, mae llawer o enillwyr enwog wedi dod i’r amlwg drwy’r Eisteddfod. Mae’r canwr opera byd-enwog Bryn Terfel yn enghraifft o artist sydd wedi llwyddo ar lwyfan yr Eisteddfod ac wedi mynd ymlaen i gael gyrfa ryngwladol. Mae beirdd cyfoes fel Mererid Hopwood, Rhys Iorwerth a Guto Dafydd hefyd wedi ennill prif wobrau, gan ddangos bod yr Eisteddfod yn parhau i fod yn ganolbwynt pwysig i’n hiaith a’n diwylliant heddiw.

Cymuned

 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn brosiect mawr sy’n dod â chymunedau at ei gilydd. Mae’r paratoi yn dechrau hyd at ddwy flynedd cyn yr ŵyl, gyda chyfarfod cyhoeddus lle gall pawb ddod i glywed mwy a chymryd rhan. Caiff pwyllgor gwaith ei ethol, ac yna mae pobl leol yn dechrau meddwl am syniadau creadigol. Maen nhw hefyd yn creu’r rhestr testunau – sef y cystadlaethau ar gyfer pethau fel barddoniaeth, canu a ysgrifennu. 

Wrth i’r cynllunio fynd yn ei flaen, mae’r gymuned yn cael ei rhannu’n ardaloedd (neu wardiau), ac mae’r gwaith codi arian a hyrwyddo’n dechrau. Cynhelir llawer o weithgareddau, fel nosweithiau hwyl, cyngherddau a digwyddiadau cymunedol, i godi arian a dweud wrth bobl fod yr Eisteddfod ar ei ffordd. Weithiau, dyma’r tro cyntaf i rai pobl fynychu digwyddiadau Cymraeg neu ddwyieithog, sy’n helpu i wneud yr iaith yn fwy cyfarwydd ac yn fwy deniadol. 

Mae hyn i gyd yn helpu pobl i deimlo bod yr Eisteddfod yn perthyn iddyn nhw. Yn ystod yr ŵyl, mae’r ardal yn gallu dangos ei chymeriad a’i blas ei hun. Ar ôl i’r Eisteddfod orffen, mae rhai pobl yn penderfynu dysgu Cymraeg, ac mae llawer o’r gweithgareddau’n parhau. Dyna sy’n gwneud yr Eisteddfod yn arbennig – nid dim ond wythnos o hwyl yw hi, ond rhywbeth sy’n gwneud gwahaniaeth i’r gymuned am flynyddoedd wedyn.

Tu ôl i'r Llenni

 

Mae creu’r Eisteddfod Genedlaethol yn dechrau bron yn syth ar ôl i’r ŵyl flaenorol orffen, ac mae’n cymryd misoedd o gynllunio manwl. Yn gyntaf, mae angen dod o hyd i safle addas gyda digon o dir gwastad i greu’r Maes, ynghyd â lle i faes carafanau, gwersylla, parcio a’r Maes B ar gyfer pobl ifanc. Mae’r cynllun yn newid dro ar ôl tro wrth i’r trefnwyr geisio cael popeth yn berffaith – mewn gwirionedd, gall fod hyd at 25 o fersiynau gwahanol cyn cyrraedd y map swyddogol ar gyfer wythnos yr Eisteddfod! 

Mae gwaith ar y safle yn dechrau ym mis Mehefin, gyda’r cam cyntaf yn cynnwys adeiladu’r isadeiledd – ffyrdd dros dro, trydan a phibellau d?r. Wedyn, mae’r adeiladau a’r stondinau’n cael eu gosod, gan greu maes llawn bywyd. Wrth gynllunio, mae’n rhaid ystyried llawer o ffactorau fel pa mor wastad yw’r tir, cadw mannau swnllyd ar wahân, a sicrhau bod cymysgedd o weithgareddau a stondinau i wneud y profiad yn gyffrous i bawb. Mae llawer o’r paratoadau’n digwydd ymlaen llaw hefyd yn y gweithdy yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, lle mae setiau, addurniadau a rhannau o’r llwyfannau yn cael eu hadeiladu cyn cael eu cludo i’r Maes mewn lorïau mawr. 

Ond nid adeiladu’r Maes yn unig sy’n bwysig – mae’r gwaith creadigol yr un mor bwysig. Mae’r gymuned leol yn dechrau paratoi tua 18 mis i 2 flynedd ymlaen llaw, gan greu’r rhaglen artistig a llunio’r rhestr testunau ar gyfer y cystadlaethau. Mae hyn yn cynnwys dewis gwahanol bynciau ar gyfer barddoniaeth, cerddoriaeth a llenyddiaeth, a threfnu cannoedd o weithgareddau i bobl eu mwynhau. Yn ystod yr wythnos ei hun, mae’r niferoedd yn anhygoel – tua 450,000 galwyn o garthffosiaeth, 5 milltir o bapur t? bach, 6 milltir o wifrau trydan a 3 milltir o bibellau d?r! Pob blwyddyn, mae’r Eisteddfod yn wahanol, gyda blas a llais arbennig y gymuned leol yn gwneud pob un yn unigryw.

Eisteddfodau Amgen

 

Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ŵyl ddiwylliannol fawr sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe’i cynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1861, ac ers hynny mae wedi cael ei chynnal bron bob blwyddyn, gan ei gwneud yn un o’r gwyliau diwylliannol parhaus hynaf yn Ewrop. Dim ond tair gwaith nad yw’r ŵyl wedi ei chynnal ar ei ffurf arferol: yn 1914 pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn 2020 a 2021 pan gafodd y byd ei effeithio gan bandemig COVID-19. 

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, doedd hi ddim yn bosibl cynnal Eisteddfod lawn, felly yn 1940, cynhaliwyd Eisteddfod radio arbennig. Cafodd cystadlaethau, cerddoriaeth a seremoni’r Cadeirio a’r Goron eu darlledu ar y radio fel bod pobl ledled Cymru yn dal i allu bod yn rhan o’r profiad, hyd yn oed mewn cyfnod anodd iawn. 

Ar wahân i’r adegau hynny, mae’r Eisteddfod wedi teithio rhwng gogledd a de Cymru bob blwyddyn ers dros 150 o flynyddoedd, gan ymweld â gwahanol ardaloedd i rannu’r ŵyl gyda chymunedau ar draws y wlad.

 

1914

Yn 1914, roedd popeth yn barod ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Roedd y pafiliwn wedi’i godi, roedd y cystadlaethau wedi cau, a dim ond ychydig wythnosau oedd i fynd tan wythnos yr Eisteddfod. Ond ar 4 Awst 1914, dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, a newidiodd popeth. Roedd pobl yn pryderu am ddiogelwch, teithio ar y trenau, a’r sefyllfa genedlaethol. Ar ôl llawer o drafod, penderfynwyd gohirio’r Eisteddfod am flwyddyn, gan mai’r rhyfel oedd yn flaenoriaeth i bawb. 

Gan i’r Eisteddfod gael ei gohirio mor hwyr, roedd y gwaith eisoes wedi’i gwblhau. Roedd y beirniaid wedi darllen y cyfansoddiadau ac wedi gwneud eu penderfyniadau, ond doedd dim hawl agor yr amlenni na chyhoeddi’r enillwyr. Felly, cafodd y gwaith i gyd ei selio a’i gadw’n ddiogel am flwyddyn gyfan – y cerddi a’r traethodau llenyddol yn yr ariandy, a’r gwaith celf mewn ystafelloedd arbennig. Roedd hyn yn anarferol iawn ac yn anodd i’r beirdd, llenorion a’r artistiaid, a oedd wedi gorfod aros yn hir iawn i glywed y canlyniadau. 

Roedd pobl Bangor yn siomedig iawn, gan eu bod wedi gweithio mor galed i drefnu’r ŵyl, ond roedd llawer hefyd yn deall mai gohirio oedd y penderfyniad cywir. Roedd Aberystwyth, a oedd i fod i gynnal yr Eisteddfod y flwyddyn ganlynol, hefyd yn gorfod aros. Yn y pendraw, cynhaliwyd Eisteddfod Bangor ym 1915, ond roedd hi’n wahanol iawn i’r arfer – llai o bobl, llai o gystadlaethau, a chysgod y rhyfel dros bopeth. Er hynny, llwyddwyd i gynnal yr ŵyl, gan brofi bod yr Eisteddfod yn parhau hyd yn oed mewn cyfnodau anodd.

 

1940

Yn 1940, yng nghanol yr Ail Ryfel Byd, ni chafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal yn y ffordd arferol. Roedd ofn y gallai torf fawr o bobl ar Faes yr Eisteddfod ddenu bomiau, gan fod awyrennau’r gelyn yn targedu trefi a digwyddiadau mawr. Roedd diogelwch pobl yn llawer pwysicach na chynnal yr ŵyl fel arfer, felly penderfynwyd peidio cynnal Eisteddfod arferol y flwyddyn honno. 

Er hynny, doedd yr Eisteddfod ddim am ddiflannu’n llwyr. Yn lle hynny, trefnwyd Eisteddfod radio arbennig trwy gyfrwng y BBC, fel bod pobl ledled Cymru’n dal i allu cymryd rhan o’u cartrefi. Yn ystod y darllediadau, cafodd y Gadair, y Goron, a Medal Llenyddiaeth (yn lle’r Fedal Ryddiaith arferol) eu dyfarnu. Roedd hyn yn ffordd unigryw ac arloesol o gadw’r traddodiad yn fyw mewn cyfnod anodd, ac yn dangos bod yr Eisteddfod yn gallu addasu a pharhau hyd yn oed wrth wynebu heriau mawr.

 

2020

Yn 2020, roedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru i fod i gael ei chynnal yng Ngheredigion. Roedd pobl leol wedi bod yn gweithio’n galed am tua blwyddyn a hanner i godi arian a threfnu’r ŵyl, gyda llawer iawn o’r gwaith eisoes wedi’i gwblhau. Roedd pawb yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru. 

Bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod oherwydd pandemig byd-eang COVID-19. Roedd y penderfyniad yn un anodd iawn, ac roedd llawer o bobl yn teimlo’n siomedig a thrist, gan fod cymaint o waith a chynllunio wedi digwydd eisoes. Roedd hwn yn gyfnod llwm iawn yng Nghymru, fel yng ngweddill y byd, gyda phobl yn gorfod aros gartref a chadw pellter oddi wrth ei gilydd. 

Er mwyn bod yn deg i’r cystadleuwyr, penderfynodd yr Eisteddfod ddilyn patrwm 1914, pan gafodd yr ŵyl ei gohirio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd yr holl gyfansoddiadau eu selio a’u cadw’n ddiogel tan y byddai modd cynnal Eisteddfod Ceredigion yn y dyfodol. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i’r beirniaid a’r beirdd a’r llenorion aros yn hir iawn i glywed y canlyniadau. 

Er nad oedd yr Eisteddfod yn gallu digwydd ar faes arferol, trefnwyd gŵyl arbennig ar-lein o’r enw Eisteddfod AmGen i gefnogi perfformwyr ac artistiaid ac i godi calonnau’r cyhoedd. Bu’r ŵyl yn rhedeg am dri mis, gyda pherfformiadau, sesiynau i blant a dysgwyr, a darlithoedd amrywiol. Cynhaliwyd hefyd wythnos lawn o ddigwyddiadau yn ystod wythnos gyntaf mis Awst gyda chefnogaeth y cyfryngau. Mae’r cyfan ar gael hyd heddiw ar sianel YouTube yr Eisteddfod - ewch draw i gael cip!

 

2021

Yn 2021, roedd pandemig COVID-19 dal i effeithio ar fywydau pawb, ac felly bu’n rhaid gohirio Eisteddfod Ceredigion am flwyddyn arall. Ar ôl llwyddiant Eisteddfod AmGen yn 2020, penderfynwyd dilyn yr un syniad eto, ond y tro hwn mewn ffordd fwy uchelgeisiol, gyda mwy o gynnwys a mwy o gyfleoedd i bobl gymryd rhan. 

Cynhyrchwyd nifer fawr o raglenni arbennig ar gyfer YouTube, gan gynnwys cyngherddau a gigs llawn gan artistiaid poblogaidd fel Pedair, Bryn Fôn a Cowbois Rhos Botwnnog. Roedd hyn yn golygu bod pobl gartref yn dal i allu mwynhau cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg, er na allai’r Eisteddfod gael ei chynnal ar faes. 

Penderfynwyd hefyd cadw’r cyfansoddiadau a oedd wedi’u derbyn ar gyfer Eisteddfod 2020, fel y gellid eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod pan fyddai’n cael ei chynnal yng Ngheredigion yn ddiweddarach. Ar yr un pryd, trefnwyd cystadlaethau newydd sbon, gyda Chadair a Choron wedi’u creu gan grefftwr yr Eisteddfod. Cynhaliwyd cystadlaethau llwyfan dan gyfyngiadau COVID yng Nghanolfan Pontio, Bangor, ac yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chafodd cystadleuwyr hefyd uwchlwytho fideos o gartref i gystadlu. 

Dangoswyd y cystadlaethau ar y teledu, yn debyg iawn i Eisteddfod arferol, gyda seremonïau’n cael eu harwain gan gynrychiolaeth fach o Orsedd Cymru. Erbyn mis Awst, roedd y cyfyngiadau wedi llacio rhywfaint, a bu modd cynnal penwythnos o gerddoriaeth yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Roedd y gynulleidfa fach yn falch iawn o fod yn rhan o’r Eisteddfod Gudd, ac roedd pawb yn ddiolchgar pan giliodd COVID-19 digon i gynnal Eisteddfod arferol yn Nhregaron yn 2022.

Eisteddfod Y Garreg Las (2026)

 

Cyfranwyr: Casgliad y Werin; Eisteddfod Genedlaethol Cymru; Gwenllian Carr