Symud i'r prif gynnwys

Beth yw archifau?

Archifau yw’r dogfennau hynny a grëwyd neu a gasglwyd ynghyd gan unigolion neu sefydliadau ac a gedwir am byth.

Dyma ddeunydd crai hanes sy'n cynnig tystiolaeth wreiddiol ac unigryw am y gorffennol. Maent yn gwbl hanfodol ar gyfer ymchwil hanesyddol.

Gweld mwy o archifau

Yr Anthem Genedlaethol

Llawysgrif yn cynnwys y copi cynharaf o Hen wlad fy nhadau yn llawysgrifen y cyfansoddwr, James James (1833-1902).

Mwy o wybodaeth am yr Anthem Genedlaethol

Dylan Thomas (1914-1953)

Oeddech chi'n gwybod bod gan y Llyfrgell Genedlaethol y casgliad mwyaf o ddeunydd sy'n ymwneud â Dylan Thomas?

Arddangosfa arlein

Er mwyn sicrhau bod etifeddiaeth Dylan yn parhau, mae'r Llyfrgell wedi digido llawer iawn o'i archif, ac mae modd edrych ar rhain yn rhad ac am ddim, unrhyw bryd y dymunwch ar ein gwefan 'Dylan'.

Gweld archif Dylan Thomas

Dylan Thomas, 1914-1953. Map Llareggub [194-]

Cyfeirnod: NLW MS 23949E

Braslun dwy dudalen sgematig o Llareggub mewn inc brown, [1944x1951], a dynnwyd gan Dylan Thomas wrth iddo gyfansoddi Under Milk Wood, ei ddrama i leisiau.