Yr Anthem Genedlaethol

Cyfeirnod: NLW Evan James MS 1

Llawysgrif yn cynnwys y copi cynharaf o Hen wlad fy nhadau yn llawysgrifen y cyfansoddwr, James James (1833-1902)

Y llawysgrif

Cyfansoddwyd tôn a geiriau'r gân a fabwysiadwyd yn ddiweddarach fel ein hanthem genedlaethol ym mis Ionawr 1856. Roedd yn ganlyniad cydweithio rhwng tad a mab o Bontypridd: Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-1878), awdur y geiriau, a James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), cyfansoddwr y dôn.

Roedd James yn gerddor a enillai ei fywoliaeth trwy ganu'r delyn yn nhafarnau Pontypridd. Mae'r llawysgrif sy'n cynnwys y copi cynharaf o'r gân Hen Wlad Fy Nhadau yn fath o lyfr ag ynddo bob math o gerddoriaeth offerynnol a chorawl wedi'i gasglu ynghyd ar gyfer ei ddefnydd ei hun gan James. Cynullwyd y deunydd yn y gyfrol rhwng 1849 ac 1863 ac mae'n rhoi syniad o'r math o gerddoriaeth a oedd yn boblogaidd yn ardal Pontypridd yr adeg honno.

Hen Wlad Fy Nhadau (f. 41v.) yw'r unig ddarn yn y llawysgrif lle nodir yn glir taw James yw'r cyfansoddwr. Nodir dyddiad y cyfansoddi fel Ionawr 1856. Yn yr un llawysgrif ceir hefyd fersiwn pedair rhan o God save the Queen gydag un pennill yn Gymraeg (Duw Gadwo'r Frenhines) wedi ei haddasu gan James hefyd.

Ansicr yw'r hanes y tu ôl i gyfansoddi'r anthem genedlaethol. Tybia rhai fod Evan James wedi ysgrifennu'r geiriau cyn i'r dôn gael ei chyfansoddi gan ei fab, a rhai fod y dôn wedi'i chyfansoddi cyn y geiriau. Rhoddwyd yr enw Glan Rhondda iddi yn wreiddiol fel oedd yn gyffredin ar gyfer tônau emynau.

Perfformiwyd y gân am y tro cyntaf yn ysgoldy Capel Tabor (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), Maesteg, ym mis Ionawr neu fis Chwefror 1856 gan Elisabeth John, Pontypridd, ac yn fuan, roedd y gân yn boblogaidd yn ardal Pontypridd. Daeth yn fwy adnabyddus ar ôl Eisteddfod Llangollen 1858 wedi i Thomas Llewelyn, Aberdâr, ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig heb eu cyhoeddi. Roedd Glan Rhondda yn rhan o'r casgliad. Beirniad y gystadleuaeth oedd Owain Alaw (John Owen, 1821-1883) a chafodd ganiatâd gan James i gynnwys Glan Rhondda yn ei gyfrol Gems of Welsh melody [1860]. Rhoddodd yntau y teitl mwy adnabyddus, Hen Wlad fy Nhadau iddi. Gwerthodd y gyfrol yn well nag un casgliad arall, a dod yn boblogaidd trwy Gymru.

Y recordiad cyntaf

Yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, gwnaed y recordiad sain Cymraeg cyntaf sy'n hysbys, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon a ganodd y diwrnod hwnnw, roedd yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau. Gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae'n para am 1 munud a 17 eiliad.

Gwlad Gwlad - Ap Anthem Genedlaethol Cymru

Ydych chi eisiau dysgu sut i ganu’r llinell alto, tenor neu fas i’r Anthem Genedlaethol?
Neu efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd eisiau gallu canu ac ynganu geiriau’r Anthem am y tro cyntaf.
Bydd ein ap yn eich helpu i wneud hynny, ac hefyd yn rhoi i chi hanes y gân hyfryd hon.

Mae Gwlad Gwlad ar gael i'w brynu ar y llwyfannau canlynol:
Apple - Gwlad Gwlad yn iTunes Store
Android - Gwlad Gwlad yn Google Play Store
Mae fersiwn Desktop PC hefyd ar gael i'w brynu ar wefan eto Music Practice.

Darllen pellach

  • Aeres Twigg. Yr anthem genedlaethol = The national anthem. Llandysul : Gwasg Gomer, 2000
  • W. Rhys Nicholas, 'The authors of "Hen wlad fy nhadau" : Evan James (1809-1878) and James James (1833-1902)'. In The bridge and the song : some chapters in the story of Pontypridd, p.28-43. Edited by P. F. Tobin and J. I Davies. Bridgend : Mid Glamorgan County Libraries, c.1991
  • Scholes, Percy A. 'Hen Wlad Fy Nhadau' yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol iii, Haf 1943

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?